Cwestiwn da Rhian! 'Stablau a Thir Pori' efo llun ceffyl i wneud y
peth yn amlwg fydda i'n defnyddio ar gyfer hysbysebu'r 'DIY Livery' sydd
gen i. Os mai arwydd ar ben ffordd sydd ei angen byddai cadw'r peth yn
syml h.y. 'Stablau' yn well rwy'n credu gan fod yna sawl agwedd wahanol i
'Livery' a byddai ceisio cyfleu hynny'n gryno bron yn amhosib. Ar ol deud
hynny, os oes gan unrhyw un awgrym, mi faswn i'n falch iawn o glywed!
Linda
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, April 23, 2008 2:47
PM
Subject: livery
Be fyddech chi'n ei roi ar arwydd ar ochr ffordd fawr ar gyfer 'Livery'
(lle cadw ceffylau)? Ydach chi'n meddwl y byddai 'Stablau' yn ddigon ar ei ben
ei hun? Mae 'gogordy' yn air diarth i mi, a dw i ddim yn hollol siwr ynglyn â
gweld 'marchdy' a 'stabl hurio' ar arwydd. Mae'r bobl sy'n holi yn cadw
ceffylau ar gyrion Pwllheli.
Diolch
Rhian