Dw i'n hwyr iawn yn darllen y drafodaeth hon! 'Dw i'n dal i amau pa mor gywir yw cyfieithu enw tafarndai "The Eagles" fel "Yr Eryrod". Bydd rhai ohonoch yn cofio imi wneud ychydig o ymchwil rai blynyddoedd yn ol ac apelio ar bobl oedd yn adnabod rhyw "Eagles" i nodi pa mor agos yr oedd at Eglwys y pentref neu'r dref. Ann ----- Original Message ----- From: "john.puw" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, April 16, 2008 7:58 AM Subject: Re: Enwau strydoedd Abertawe > Roedd Rhaeadr Ewynnol yn wers i bawb. > Sent using BlackBerry® from Orange > > -----Original Message----- > From: David Bullock <[log in to unmask]> > > Date: Wed, 16 Apr 2008 07:38:42 > To:[log in to unmask] > Subject: Re: Enwau strydoedd Abertawe > > > Bues i'n byw am gyfnod yn Goat Street, yn Hwlffordd. > > Stryd yr Afr, wrth gwrs, roedd rhai yn mynnu dweud. Ond mewn gwirionedd > llygriad ar yr enw gwreiddiol Gate Street oedd y Saesneg. > > Oes yna rybudd yma eto fod rhaid gofalu wrth drafod enwau lleoedd - fel y > rhybudd yn yr erthyglau gan Ceinwen Thomas yr oedd Muiris yn sôn amdanyn > nhw > pa ddydd? > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd > Tomos > Anfonwyd/Sent: 15 Ebrill 2008 22:34 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: Enwau strydoedd Abertawe > >> Oes 'na hanes hir i "Stryd y Gwynt" ar gyfer "Wind Street" ynteu bathiad >> diweddar yw e? > > Wyne Street oedd e yn y canol oesoedd, sydd ar lafar yn llygru i > Wyne-d Street a wedyn Wind Street. Dwi wedi gweld 'Stryd y Gwin' yn > cael ei ddefnyddio gan rai, ond dwi ddim yn gwybod os mai'r 'Gwynt' > sydd nawr yn enw swyddogol. > -------------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG. Version: 7.5.519 / Virus Database: 269.23.0/1381 - Release Date: 16/04/2008 09:34