O'r cofnod "Lorraine Barrett: Nid ildiaf i unrhyw ymgais gan Peter Rogers i ymyrryd oherwydd ni adawaf i neb weiddi arnaf. Datganaf ddiddordeb fel cadeirydd grŵp yr holl bleidiau ar les anifeiliaid. Croesawaf y cynigion sy'n galw am ddwyn ymlaen y dyddiad pryd y caiff cewyll batri ar gyfer ieir eu disodli gan ***gewyll ag elfennau wedi'u hychwanegu.*** Ddim yn fachog iawn ond mae'n esbonio beth ydynt. Muiris 2008/4/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>: > > > Dwi'n dal i aros am ateb - dwi di deud wrth y cwsmer y bydd raid iddo fod yn > amyneddgar. > > ;-) > > > > ----- Original Message ----- > From: GLENYS ROBERTS > To: [log in to unmask] > Sent: Wednesday, April 30, 2008 12:05 PM > Subject: enriched cages > > > Holodd Geraint Lovgreen am hyn yn ôl yn 2002, ond wela i ddim ateb yn yr > archifau. Cewyll batri yw'r cyd-destun - mae'r rhain ychydig yn well na'r > rhai affwysol arferol, ond dim llawer. 'Cewyll coethach' sy' gen i ar hyn o > bryd - ond os oes gan rywun awgrym sy'n cyfleu'r 'enrich' yn well, baswn yn > falch o'i glywed. Neu'n gwybod am derm sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio. > TermCymru ar streic yma. > Diolch > Glenys