Mae'r cofnod ar ei gyfer yn Dictionary of the Place-names of Wales yn rhoi BENLLECH fel y prifair, ond mae'n rhestru'r ffurf "y Benllech" sy'n dyddio o 1483, ac mae'n gorffen drwy gyfeirio at dyddyn o'r enw Tythyn y Benllech, 1691: "It was the latter ... which gave the 18 cent. village the name of (Y) Benllech". -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts Anfonwyd/Sent: 03 Mawrth 2008 14:24 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: in Benllech Shwt mae dweud "in Benllech" plîs? Yn ôl Enwau Cymru, "Benllech" yw enw'r lle, nid "y Benllech". Dw i wedi cymryd erioed nad yw "ym Menllech" yn iawn ond mae Gwgl yn dod o hyd i tua 53 enghraifft - yn cynnwys un mewn gwers Gymraeg Catchphrase gan y BBC. Dw i'n cymryd mai ffurf dreigledig yw "Benllech" ei hunan a dyna pam yr ydw i'n anghyfforddus yn treiglo.