Dyma'r unig "ddifiniad" 'rwyf wedi medru dod o hyd
iddo:
Voluntary income – resources such as grants and donations that are ‘given’
– continues to distinguish the voluntary sector from other sectors, though it is
now the case that voluntary income and earned income (derived from selling goods
and services, which often includes activities to generate funds) are broadly
similar in the funding mix.
OND, yn y cyfrifon 'rwyf yn eu cyfieithu, y
penawdau dan "Voluntary income" yw:
Donations
Fundraising Income
Bank Interest receivable
Mae'n swnio fel "unrhyw incwm nad yw'n "earnerd
income", er bod codi arian yn waith.
Wrth gwrs, mi allaf roi "Incwm gwirfoddol", ond
hoffwn wybod beth ydyw.
Gyda llaw, wn i ddim beth yw profiad pobl eraill,
ond caf mai'r eirfa 'dw i'n gorfod holi amdano amlaf ddyddiau hyn ydy termau
cyfrifyddu a'r farchnad arian - gair i gall?