Mae'r Cofnod ( http://www.cynulliadcymru.org/en/3a153c7a0000e95d000062c900000000.pdf ) yn cynnig 'anghilyddu' ar gyfer 'demutulise' ond yn yr un paragraff mae'n defnyddio 'Sefydliad cydfuddiannol adnabyddus' ar gyfer 'A well-known mutual'. Tybded a fyddai'n bosibl defnyddio 'cydfuddiannu' ar gyfer 'mutualise' (hynny yw troi yn 'mutual' - roedd ychydig o son y byddai'n bosibl i Northern Rock wneud hynny ac mae rhai wedi galw am i hynny ddigwydd i'r cwmniau dwr) a defnyddio rhyw ffurf fel 'anghydfuddiannu' ar gyfer 'demutualise' er mwyn cadw'r cysylltiad rhwng 'Mutualise' a 'Demutualise'. Muiris On 06/03/2008, Siân Roberts <[log in to unmask]> wrote: > Beth am "anghydfeddiannu" ? > > Yn ôl TermCymru, "cydfeddiannol" yw "mutual" a "cydfeddiannu" yw "mutuality" > yn y cyd-destun "Housing, Mutuality and Community Renewal:", "Tai, > Cydfuddiannu ac Adfer Cymunedol". Ond wela i ddim byd ar y we. > > > > > On 6 Mar 2008, at 11:57, Gwenllian Mair Williams wrote: > > Oes rhywun wedi dod ar draws hwn mewn cyd-destun ariannol? > Wedi dod o hyd i ddiffiniad o'r term ar y we: > "Demutualization: The process of changing corporate structure from a mutual > fund company to some other form, such as a limited liability or > corporation." > > ..ond dal fawr callach sut i'w gyfieithu yn gryno. > > Unrhyw awgrymiadau? > Gwenllian > > >