Print

Print


Diolch yn fawr iawn, John.  Erbyn hyn mae'r gwaith brys wedi mynd yn ol.  Cwsmer yn gofyn imi gyfieithu rhywbeth o'r Gymraeg - a thwtio ychydig ar y gwreiddiol.  Cymerodd y twtio fwy o amser na'r cyfieithu, a rhan ohono oedd cynnig termau Cymraeg ar gyfer rhai o'r pethau oedd wedi aros yn Saesneg. 
 
Mae Senheisser (sillafu?) wedi bod yn gwneud y math arall o offer ers blynyddoedd, er ei fod yn sicr o fod wedi'i ddiweddaru.  'Dw i'n methu cofio'n iawn pwy oedd yn ei ddefnyddio - Ceredigion, dw i'n meddwl.  Gellid cael swits ar flaen y blwch, er mwyn dewis gwrando ar y cyfieithiad neu ar y siaradwr - defnyddiol yn ystafell cyngor nad oedd yr acwstig yn dda iawn.
 
'Dw i wedi bod yn arfer dweud "ffonau clust" ar gyfer "headset/earphones", a dim yn licio "penset/pensetiau" o gwbl.  Gwelaf fod "penset" yn GyrA, ond mae Bruce yn cytuno nad yw'n ei hoffi.  Yn y diwedd 'dw i wedi defnyddio "setiau pen" ar gyfer "headsets" a "ffon clust" ar gyfer "earpiece", ond dim ond cynnig ydy hynny.
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">John Puw
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, March 06, 2008 4:49 PM
Subject: Re: headsets and earpieces

Cyrn yden ni'n galw'r rhai arferol - ond mae'n siwr fod yno rywbeth mwy swyddogol na hynny! Gwelais y math sydd gennych dan sylw ddydd Gwener diwethaf - mae'r barnwyr yn eu defnyddio yn y llysoedd mae'n debyg.  Mae'r darn clust yn edrych ddigon tebyg i'r math o beth sydd ar offer Bluetooth ffôn symudol - clip yn bachu dros y glust a dim byd yn mynd "i mewn" i'r glust. Mae yno hefyd wifren yn cysylltu hyn â'r blwch sy'n derbyn y neges o'r offer cyfieithu.  Ysgwn i a yw Idb wedi meddwl am enw i'r offer?
 


 
On 06/03/2008, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
Mae corff sy'n defnyddio'r 'headsets' arferol ar gyfer cyfieithu ar y pryd (a gwn fod mwy nag un ffordd o gyfeirio at y rhain) yn ystyried newid i offer efo "earpiece".  Cymeraf fod hyn yn golygu'r "peth" sengl sy'n hongian o rywbeth sy'n bachu dros gefn un glust.  Sut mae pobl yn arfer gwahaniaethu rhwng y ddau fath.
 
Diolch yn fawr,
 
Ann


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.21.5/1314 - Release Date: 05/03/2008 18:38