Diolch yn fawr iawn, John. Erbyn hyn mae'r gwaith brys wedi mynd yn ol. Cwsmer yn gofyn imi gyfieithu rhywbeth o'r Gymraeg - a thwtio ychydig ar y gwreiddiol. Cymerodd y twtio fwy o amser na'r cyfieithu, a rhan ohono oedd cynnig termau Cymraeg ar gyfer rhai o'r pethau oedd wedi aros yn Saesneg. Mae Senheisser (sillafu?) wedi bod yn gwneud y math arall o offer ers blynyddoedd, er ei fod yn sicr o fod wedi'i ddiweddaru. 'Dw i'n methu cofio'n iawn pwy oedd yn ei ddefnyddio - Ceredigion, dw i'n meddwl. Gellid cael swits ar flaen y blwch, er mwyn dewis gwrando ar y cyfieithiad neu ar y siaradwr - defnyddiol yn ystafell cyngor nad oedd yr acwstig yn dda iawn. 'Dw i wedi bod yn arfer dweud "ffonau clust" ar gyfer "headset/earphones", a dim yn licio "penset/pensetiau" o gwbl. Gwelaf fod "penset" yn GyrA, ond mae Bruce yn cytuno nad yw'n ei hoffi. Yn y diwedd 'dw i wedi defnyddio "setiau pen" ar gyfer "headsets" a "ffon clust" ar gyfer "earpiece", ond dim ond cynnig ydy hynny. Ann ----- Original Message ----- From: John Puw To: [log in to unmask] Sent: Thursday, March 06, 2008 4:49 PM Subject: Re: headsets and earpieces Cyrn yden ni'n galw'r rhai arferol - ond mae'n siwr fod yno rywbeth mwy swyddogol na hynny! Gwelais y math sydd gennych dan sylw ddydd Gwener diwethaf - mae'r barnwyr yn eu defnyddio yn y llysoedd mae'n debyg. Mae'r darn clust yn edrych ddigon tebyg i'r math o beth sydd ar offer Bluetooth ffôn symudol - clip yn bachu dros y glust a dim byd yn mynd "i mewn" i'r glust. Mae yno hefyd wifren yn cysylltu hyn â'r blwch sy'n derbyn y neges o'r offer cyfieithu. Ysgwn i a yw Idb wedi meddwl am enw i'r offer? On 06/03/2008, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote: Mae corff sy'n defnyddio'r 'headsets' arferol ar gyfer cyfieithu ar y pryd (a gwn fod mwy nag un ffordd o gyfeirio at y rhain) yn ystyried newid i offer efo "earpiece". Cymeraf fod hyn yn golygu'r "peth" sengl sy'n hongian o rywbeth sy'n bachu dros gefn un glust. Sut mae pobl yn arfer gwahaniaethu rhwng y ddau fath. Diolch yn fawr, Ann ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.21.5/1314 - Release Date: 05/03/2008 18:38