Dwi'n cael trafferth deall beth yn union yw ystyr y Saesneg, hyd yn oed. Gall cyrff fel byrddau iechyd, cwmnïau a chymdeithasau fod yn "legally constituted" ac yn aml mae cyfansoddiad ganddynt. Ond wedyn gall llysoedd a llywodraethau fod yn "legally constituted" hefyd. Yn yr ail enghraifft, efallai bod cyfansoddiad gan wladwriaeth ond a oes un gan y llywodraeth? Ydi "legally constituted" felly'n golygu "a grëwyd yn unol â'r gyfraith" neu "a grëwyd fel endid cyfreithiol"? Beth yw'r cyfieithiad Cymraeg gorau? Mae f'ymennydd yn brifo. Claire