Ewyn y tylwyth teg (chwarae ar Fairy Liquid) Lle mae'r môr yn golchi llestri 'Dy dro di i sychu...' ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Friday, March 14, 2008 9:59 AM Subject: Where things are washed up Cyd-destun: teitlau ffotograffau eto Llun: glan y mo^r wrth iddi nosi, a llawer o'r ewyn anghynnes 'na sy'n debyg i ewyn golchi llestri - y syniad o'r ewyn a'r golchi llestri sy'n bwysig, nid y broc mor ei hun. Bruce: Lle golchir pethau i'r lan Ann: Wnaiff hynny mo'r tro; 'does dim amwyster. Beth am Lle caiff pethau ei golchi? Bruce: Golchi llestri yw Wash up. Mae cyfeirio at olchi yn unig yn cyfleu syniad o olchi dillad ... (nes ymlaen) ... Bruce: Dw i'n colli amynedd. A oes gan unrhyw unrhyw un unrhyw syniadau *ar frys* os gwelwch yn dda? Mae'r printiau 'ma yn cael eu fframio heddiw. 'Dyn ni eisoes wedi delio a^ "I was amazed at the bottle of the sheep" ("Pediwch a gofyn" fel y dywedir yn Saesneg) a sawl un arall. Llawer o ddiolch, Ann