Mae TermCymru'n cynnig:
Prosiect Cydgasglu Galw'r Sector Cyhoeddus am
Fand Eang (statws 5)
Public Sector Broadband Aggregation ydy ystyr
yr acronym. Dwi ddim yn siwr lle mae TermCymru wedi cael y 'prosiect' -
na'r 'galw' chwaith.
Oes gan rywun gynnig arall?
Ai 'Cydgrynhoi Band Eang y Sector Cyhoeddus' ydy'r
ystyr? Dyna mae'r cyd-destun yn ei awgrymu i mi.
Dwi'n amau fod cynnig TermCymru yn gyfieithiad o
fwy na dim ond y PSBA, ond byddwn yn gwerthfawrogi eich barn.
Diolch!
Catrin