Gall "geirda" a "reference" fod ar lafar. Dyna pam y ceir cynifer o gyfeiriadau at "written references", wrth gwrs, er mwyn gwahaniaethu. Mae'n well gan rai pobl sy'n gweithio ym maes Adnoddau Dynol ofyn am eirda dros y ffôn e.e. "I always found a telephone approach was far superior to a written reference because you were told the truth and had an opportunity to question the referees." Claire -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 05 March 2008 08:58 To: [log in to unmask] Subject: reference[Spam score: 8%][Scanned] "Geirda" (statws 5) yn unig a roddir gan TermCymru am "reference". Roedd arna i eisiau cyfieithu "any job offer is subject to references". Does dim sôn am luosog "geirda" yn TermCymru na Geiriadur yr Academi ond mae Gwgl yn ffeindio 319 enghraifft o "geirdaon"o bob math o wahanol lefydd. Welais i erioed mohono o'r blaen ac mae'n swnio braidd yn od i mi. Ydi e wedi ennill ei blwyf? Efallai y byddai'n well defnyddio "tystlythyrau". A oes gwahaniaeth rhwng "geirda" a "thystlythyr"? Dw i'n gweld bod rhai dogfennau'n cyfeirio at "eirdaon a thystlythyrau". Diolch Siân