Efo enwau fel hyn, dwi'n meddwl mai dweud "i Benllech" ac "yn Benllech" fyswn i. Geraint ----- Original Message ----- From: "Parry Eira Fôn ADN/GGYC" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, March 03, 2008 5:31 PM Subject: Re: in Benllech Na fyswn, wedi meddwl. Ond dw-i erioed 'di clywed neb acw'n d'eud 'i'r Benllech'. Dw-I'n trio meddwl be fyddwn I'n ei 'sgwennu. Yn bendant fyddwn I'm yn 'sgwennu 'I'r Benllech' ond fel ti'n 'i dd'eud mae 'I Fenllech' yn swnio'n od. Heb os 'ym Menllech' y byddwn I'n ei sgwennu ond mynd yn ôl be 'dw-I 'di glywed erioed ydw i. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GERAINT LOVGREEN Sent: 03 March 2008 15:44 To: [log in to unmask] Subject: Re: in Benllech Dwi'n synnu at hyn. Mae treiglo Benllech yn swnio'n anghywir i mi - fyddet ti'n deud "i Fenllech" felly? Er nad oes fannod, dwi'n meddwl ei bod hi yno'n ddealledig ac mai "yn (y) Benllech" sy'n gywir. Am yr un rheswm, faswn i ddim yn deud yng Ngroeslon, i Fontnewydd, i Arndolbenmaen, o Orseinon... Geraint ----- Original Message ----- From: "Parry Eira Fôn ADN/GGYC" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, March 03, 2008 2:36 PM Subject: Re: in Benllech Fel un o'r ardal honno 'ym Menllech'y bydda' i'n ei dd'eud er mai cyfeiriad at ben cromlech Pant y Saer (Pen y Llech)y mae'r enw. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 03 March 2008 14:24 To: [log in to unmask] Subject: in Benllech Shwt mae dweud "in Benllech" plîs? Yn ôl Enwau Cymru, "Benllech" yw enw'r lle, nid "y Benllech". Dw i wedi cymryd erioed nad yw "ym Menllech" yn iawn ond mae Gwgl yn dod o hyd i tua 53 enghraifft - yn cynnwys un mewn gwers Gymraeg Catchphrase gan y BBC. Dw i'n cymryd mai ffurf dreigledig yw "Benllech" ei hunan a dyna pam yr ydw i'n anghyfforddus yn treiglo. ------------------------------------------------------------- Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith. Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur. ------------------------------------------------------------- This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once. Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author. ------------------------------------------------------------- Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol. Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.