Print

Print



O ble daeth y dyfyniad?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Dorothy Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, February 29, 2008 3:43 PM
Subject: Re: early bird

Mae Caer 20 munud i ffwrdd o’m stepen drws (Nercwys).

Yma, rydym yn dweud ‘cyn codi cŵn Caer’ er mwyn dwyn yr halen!

 

“They rise before the dogs of Chester

Those Welsh, who steal past our City walls

And take of our salt...”

 

Dyna'r ystyr - ac wrth gwrs, yn Nhŵr Nercwys fe wnaeth Cymro grogi Maer Caer!  Mae’r bachyn yno o hyd, yn nenfwd y neuadd.  Ac mae’n wir - caiff Cymro sy’n cael ei ddal yn y Ddinas ar ôl yr hwyrgloch ei ladd gyda bwa a saeth, hyd yn oed heddiw!

 

 

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Delyth Prys
Sent: 29 February 2008 11:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: early bird

 

Mae'r ymadrodd 'cyn codi cŵn Caer' yn arddu o'r amser pan oedd hi'n anghyfreithlon i Gymry fod yng Nghaer ar ôl iddi nosi. Roedd hyn yn wir am fwrdeistrefi eraill hefyd - dyna'r ergyd yng nghywydd Dafydd ap Gwilym 'Trafferth mewn Tafarn' - doedd Cymro ddim i fod yn y dref dros nos.
Mae'n debyg felly fod y Cymry ofn i gŵn Caer eu bradychu os oedden nhw o gwmpas yn oriau mân y bore.
Gyda llaw, maen nhw'n dweud nad yw'r ddeddf yna yn erbyn y Cymry i fod yng Nghaer dros nos erioed wedi'i diddymu.....

Delyth


Ysgrifennodd Saunders, Tim:

Eitha posib - wedi clywed yr Efrogwys yn ymfalchïo yn y glasenw 'tykes', a chefnogwyr tîm Cill Choinnigh yn mynnu'u bod yn aelodau o rywogaeth felis cattus.
 
 
Tim
 
Tim Saunders 
Cyfieithydd / Translator 
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit 
Ty Trevithick 
Abercynon 
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ 
Ffôn +44-(0)-1443-744000 
 
 
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
 
 
This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful. 
 
 
 
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 29 February 2008 10:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: early bird
 
 
Dw i wastad wedi dychmygu bod y cwn yn cyfarth i rybyddio bod y Cymry'n 
ymosod!  Efallai bod 'na ryw awgrym o alw'r *bobl* yn cwn (rhaid bod yn 
gyfrwys i'w twyllo??), a dyna'r hyn a oedd yn amheus ynghylch y dywediad? 
Dim ond dyfalu ydw i.
|nn
----- Original Message ----- 
From: "Jones,Sylvia Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 29, 2008 8:50 AM
Subject: Re: early bird
 
 
Saunders, Tim wrote:
  
Pobl oedd ar lawr cyn pawb arall - plismyn, gweithwyr carthffosydd, ayyb, 
os cofiaf yn iawn. Cyfres ddiddorol iawn. Finnau'n hoffi'r ymadrodd 
hefyd - ond yn poeni ryw ychydig am y posibilrwydd a gododd Rhydwen.
 
 
Tim
 
Tim Saunders Cyfieithydd / Translator Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon 
Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit Ty Trevithick Abercynon 
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ Ffôn +44-(0)-1443-744000
    
 
Chlywais i mo'r gyfres efo Hywel Gwynfryn ac roeddwn i bob amser wedi
credu bod Cwn Caer yn gwn a'u bod nhw jest yn deffro ben bore ac yn cyfarth!
 
 
  

 

-- Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma: www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the Bangor University email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here: www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer