A all rhywun fy ngoleuo pam y mae'r Termiadur ysgol yn rhoi 'pôl' yn hytrach na 'phegwn' am 'magnetic pole'? Mae'n arwain at sefyllfa hurt lle ceir NORTH CELESTIAL POLE = PEGWN WYBRENNOL Y GOGLEDD a NORTH MAGNETIC POLE = POL MAGNETIG Y GOGLEDD. Hollol wallgo - be sy'n bod ar y gair pegwn?? Geraint