Un o'r pethau rhyfeddaf glywais i ar dren yw troi Penychain ger Pwllhelli'n Penny Chain yn Saesneg ac yn ôl i'r Gymraeg wedyn fel Pen-y-tsaen. Rhyfedd o fyd. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sion Williams Sent: 01 February 2008 12:09 To: [log in to unmask] Subject: camgyfieithu O ddiddordeb o bosibl yn dilyn syniad Huw Tegid... Mae fy MA (146 tudalen, dros 35 000 o eiriau) yn dilyn helynt Central Trains Ltd, North West Regional Railways, Safeways a'r UK Passport Agency am eu camgyfieithu i'r Gymraeg yn Aberystwyth, Bangor, Caernarfon, Casnewydd a Llanfairpwll. Bum yn gohebu a hwy am gyfnod o bedair blynedd ar y mater a cheir copiau o'n llythyrau, lluniau o'u harwyddion/deunyddiau gwallus a phethau cyffelyb. Os oes gan unrhywun ddiddordeb mae croeso iddyn nhw gysylltu a mi. Fel rhan o'r ymatebion a gefais fel esgus oedd y perl yma: "You must appreciate there is a difference between Northern and Southern Welsh and Ancient [sic.] and Modern Welsh" - hyn am ddiffygion ieithyddol yng ngorsaf reilffordd Llanfairpwllgwyngyll. Hwyl, Sion