Print

Print


Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008


Gweithdai Cysylltiadau Cyhoeddus ar gyfer Mis Amgueddfeydd ac Orielau  2008

Rydym wrthi'n llunio cyfres o weithdai byr ar gysylltiadau cyhoeddus mewn lleoliadau ar draws Cymru i'ch helpu i gael y sylw mwyaf posibl yn y cyfryngau i'ch amgueddfa neu oriel yn ystod Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008 a thu hwnt. Byddwn yn cynnal gweithdy mewn lleoliad agos atoch chi yn ystod mis Mawrth felly cysylltwch â Caroline Holmes yn Working Word PR os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu neu os hoffech fwy o wybodaeth - [log in to unmask] neu 02920 488 778. Mae'r gweithdai yn agored i bawb ar sail cyntaf i'r felin. P'un ai ydych yn newydd i gysylltiadau cyhoeddus ai peidio, medrwch ddysgu am ddefnyddio cysylltiadau cyhoeddus yn fwy effeithiol a chael hwyl. Cynhwysir dyddiadau ac amserau gweithdai unigol mewn bwletin yn y dyfodol.

Pecynnau Cymorth Cysylltiadau Cyhoeddus Mis Amgueddfeydd ac Orielau

Mae pecynnau cymorth cysylltiadau cyhoeddus Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008 ar gael i'w lawrlwytho o Wefan CyMAL. Logiwch i http://new.wales.gov.uk/topics/cultureandsport/museumsarchiveslibraries/cymalL4/mgm2008/mgmtoolkit?lang=cy a lawrlwytho eich copi.
 

Posteri Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008

Mae posteri dwyieithog ar gyfer Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008 ar eu ffordd atoch. Os hoffech fwy o gopïau, e-bostiwch: [log in to unmask]


Digwyddiadau Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe eisoes wedi cadarnhau y bydd yn cynnal digwyddiad unigryw yn ystod Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008! Bydd yr amgueddfa yn arddangos car Gilbern, yr unig gar a gynhyrchwyd mewn niferoedd mawr ac a adeiladwyd yn gyfangwbl yng Nghymru. Mae'r amgueddfa hefyd wedi ymuno gydag Ysgol Peirianneg Fodurol Prifysgol Abertawe i gynnal ei sioe graddau flynyddol yr un pryd â'r arddangosfa Gilbern.
 

Wythnos Addysg Oedolion 2008 (17-24 Mai) a Mis Amgueddfeydd ac Orielau
 
Yr Wythnos Addysg Oedolion yw'r wyl addysg oedolion fwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae'n gyfle ar gyfer pob math o ddarparwyr dysgu (yn cynnwys amgueddfeydd ac orielau) i arddangos llwyddiant ac ymrwymo oedolion wrth ddychwelyd i'w teithiau dysgu personol.

Mae Wythnos Addysg Oedolion, a gydlynir gan NIACE Dysgu Cymru (NDC), yn hyrwyddo addysg oedolion yng Nghymru. Mae'r Wythnos yn amser delfrydol i amgueddfeydd ac orielau gynnal eu gweithgareddau addysg oedolion a theulu fel rhan o'r Mis Amgueddfeydd ac Orielau.

Dywedodd Essex Havard, swyddog datblygu rhanbarthol NDC: "Byddai'n wych gweld amgueddfeydd ac orielau Cymru'n cymryd rhan yn yr Wythnos Addysg Oedolion. Byddai hyn yn cefnogi barn NDC fod amgueddfeydd yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth addysg oedolion yng Nghymru".

Mae gan bob sir yng Nghymru grwp cynllunio Gwyl Dysgu (grwp o ddarparwyr dysgu sy'n cydweithio i gynllunio ymagwedd ar y cyd at yr Wythnos Addysg Oedolion). Hoffai NDC annog amgueddfeydd ac orielau i ymuno â'r grwpiau hyn gan eu bod yn ffordd effeithiol iawn o wneud cysylltiadau newydd a chychwyn prosiectau ar y cyd.

Mae Grantiau Hyrwyddo Dysgu o hyd at £1,000 ar gael ar gyfer gweithgareddau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Mae manylion pellach a ffurflenni cais ar gael yn www.learnersweek.org.uk (dyddiad cau 7 Mawrth).

Cefnogir yr Wythnos Addysg Oedolion gan strategaeth cysylltiadau cyhoeddus sy'n cynnwys hysbysebion teledu, atodiadau papur newydd (gyda 1.2 miliwn o ddarllenwyr), canllawiau rhanbarthol, ymgyrch posteri a hysbysebion radio. Bydd amgueddfeydd ac orielau'n cael cyhoeddusrwydd ychwanegol ar gyfer eu digwyddiadau Mis Amgueddfeydd ac Orielau drwy ymuno gyda'r Wythnos Addysg Oedolion.

I gael mwy o wybodaeth, ac enwau cysylltiadau lleol Gwyl Dysgu, cysylltwch ag Essex Havard ar 029 2037 0900 [log in to unmask]


---
Elizabeth Bennett 

Swyddog Cyngor a Chefnogaeth - Advice and Support Officer 

CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - CyMAL: Museums, Archives and Libraries Wales 
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Assembly Government 

Uned 10, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH. 
Unit 10, Science Park, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH. 
Ffon/Tel: 01970 610235 
Ffacs/Fax: 01970 610223 
Rhif GTN/GTN No: 7 2846 0235 
e-bost/e-mail: [log in to unmask] 



The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet virus scanning service supplied by Cable&Wireless in partnership with MessageLabs. (CCTM Certificate Number 2006/04/0007.) On leaving the GSi this email was certified virus free.
Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.

Cafodd fersiwn gwreiddiol y neges e-bost hon ei sganio gan wasanaeth gwrthfeirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a ddarparwyd gan Cable&Wireless mewn partneriaeth â MessageLabs. (Rhif Tystysgrif CCTM 2006/04/0007). Wrth adael y GSI nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.
Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSI yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.