Anfonaf y neges hon at Gylch Trafod y Gymdeithas a hefyd at Welsh-Termau-Cymraeg er y teimlaf mai yn y cyntaf, ac yng nghyfarfodydd y Gymdeithas, yw'r lleoedd mwyaf priodol i drafod y pwnc.
Ers dwy flynedd 'rwyf wedi bod yn gweithio, fel nifer fawr ohonoch mae'n siwr, ar gytundeb mawr i asiantaeth
Gymreig gyfeillgar a threfnus. Gan fod y cytundeb, i bob golwg, wedi'i gyflawni'n foddhaol, 'roeddwn i wedi bod yn gobeithio gwneud yr un peth eto eleni.
Y tro cyntaf imi sylweddoli nad oedd yr asiantaeth wedi ennill y cytundeb oedd pan gefais ymholiad, gan gwmni y tu allan i Gymru, yn gofyn a oeddwn i'n barod i weithio arno iddyn nhw. Y tro cyntaf i'r asiantaeth arall sylweddoli nad oedd wedi llwyddo oedd pan gysylltais i a^ nhw i holi ynghylch y sefyllfa! Atebais yr ymholiad, gan anfon CV, so^n am fy mhrofiad yn y maes, a dweud y byddwn i'n disgwyl tua'r un graddfeydd ag yr oeddwn wedi'u derbyn yn y gorffennol. Cefais gynnig oedd yn *sylweddol* is, gyda'r geiriau:
Whilst your rates are, of course, at your discretion, this is a new Client and we have had to offer them an extremely competitive rate in order to win the contract. ... I
would assure you that we do not compromise quality over price, however, providing quality and skills are equal, price becomes the deciding factor for us as it does to our end Client." I mi, mae hyn cystal a dweud, "yr unig ffordd y gallem ennill y cytundeb oddi ar y cwmni a oedd yn gwneud y gwaith oedd trwy eich blingo chi."
Fy mwriad i yw gwrthod y cyfle i ymuno a'r tim, ac efallai bydd eraill yn gwneud yr un peth, ond sylweddolaf y bydd yna nifer fawr ohonoch sydd wedi edrych ymlaen at y gwaith hwn, ac sydd wedi cadw eich amser yn weddol glir ar ei gyfer - efallai byddwch yn teimlo bod rhaid ichi dderbyn y raddfa is. Bum yn pendroni hefyd, "Beth os bydd llawer o bobl yn gwrthod y graddfeydd is, fel na all y cwmni gwblhau'r cytundeb mewn pryd? Sut all y cwmni weithredu?" Nid wyf yn un a llawer o ben ar
gyfer busnes, ond efallai fy mod i'n sinigaidd - tybed a fydden nhw'n cynnig pris uwch i'r bobl a oedd wedi gwrthod - ond yn mynnu cyfrinachedd fel na fyddai'r gweddill yn cael gwybod?
Mae'r holl beth yn drist, gan fod gwaith y cytundeb yn waith pwysig, gwaith sydd angen ei wneud mewn da bryd ac mor gywir ag y bo modd.
'Rwyf wedi son o'r blaen wrth gyfieithwyr eraill am y ffaith bod llawer o hufen y cytundebau mawrion yn mynd i asiantaethau dros y ffin, sy'n medru prynu gwaith yr un hen rai yng Nghymru efo'r llaeth sgim. Onid yw hi'n bryd inni feddwl am weithredu? A oes modd inni ddod at ein gilydd, gyda help gan y Gymdeithas, neu gan asiantaeth Gymraeg, i gynnig am gytundebau mawrion, hyd yn oed am y cytundeb hwn (sy'n un enfawr) y flwyddyn nesaf? Byddai'n rhaid buddsoddi ychydig bach ymlaen
llaw, i gyflogi rhywun i ysgrifennu'r cais (gallaf feddwl am un unigolyn posibl, o leiaf), a rhaid i bob un gyfrannu rhan o'i dal i gyflogi gweinyddwr. A yw Canolfan Cydweithredol Cymru yn dal i weithredu o gwbl? A oes help i gael o rywle?
Na, nid wyf yn cynnig gwneud y gwaith - ond mae'n hen bryd inni ddechrau meddwl am hyn, yn lle bod ar drugaredd pobl eraill.
Dymuniadau gorau,
Ann