Print

Print


Pwynt pwysig iawn ynghylch 'ymgeleddu'. Diben 'cwnsela' yn yr ystyr arferol yw galluogi'r unigolyn i lunio ymagwedd ac ymatebion o'i adnoddau'i hun, yn hytrach na rhoi unrhyw fath o gyngor iddi/iddo wneud un peth rhagor peth arall.  Nid yw 'ymgeleddu' yn taro deuddeg o gwbl yn y fath gyd-destun - heblaw am yr anawsterau eraill y mae Berwyn yn tynnu sylw atynt. 
 
Mewn cyd-destun cyfreithiol, mae angen pendant gwahaniaethu rhwng yr hyn y mae cyfreithydd yn ei wneud ar gorn arbenigedd yn y gyfraith, a'r math o annog a geir gan dramgwyddwyr sy'n cymryd rhan yn yr un anfadwaith. Ond inni gofio bod 'cwnsela' yn y cyd-destun yma yn golygu rhywbeth gwahanol iawn i'r hyn y mae, dyweder, aelod o staff gwasanaeth yn ei wneud ar gyfer cleient, nid ddylai gormod o ddryswch godi. 
 
Mae'n wir hefyd fod rhai mathau o counselling - e.e. parthed dyledion - yn gofyn am gyngor arbenigol iawn. Eithaf teg, felly, fyddai arfer 'cynghori' yn y cyd-destunau hyn.
 


Tim 

Tim Saunders
Cyfieithydd / Translator
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit
Ty Trevithick
Abercynon
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
Ffôn +44-(0)-1443-744000 


Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful. 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 07 January 2008 15:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: counselling


Does neb, hyd y gwela i, wedi cynnig ateb cwbl foddhaol i'r broblem hon.
 
Yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith (td. 258), ceir:
 
counsel (= to advise) = cynghori
counsel [the commission of an offence] = cwnsela
counsel [= assist and guide to resolve personal, social etc. problems and difficulties] = ymgeleddu
 
Dywed troednodyn 53 o dan y cofnod hwnnw:
 
'Pwysleisir nad yw "cwnsela, cwnselwr" yn gywir fel trosiadau o "to counsel, counsellor" yn ystyr cynnig neu roi cyngor. Gwir ac unig ystyr "cwnsela", yn ôl GPC, yw "cydymgynghori, cydfwriadu'n ddirgel, ymgyfrinachu, siarad neu ymddiddan yn gyfrinachol" - mae'n glir y ceir mwy nag un awgrym o weithredu mewn modd sinistr. I'r gwrthwyneb, argymhellir mai'r geiriau "ymgleddu, ymgeleddwr" sy'n cyfleu'r ystyr yn y modd cywiraf lle bo cleifion neu alarwyr dan sylw. Y Saesneg am 'ymgeleddu" yw "to succour", sef ... "rhoi cymorth a chynnal ar adegau o galedi a thrallod". Dyna'r union ystyr a geisir.'
 
Ond go brin bod y rhai sy'n rhoi cyngor i fyfyrwyr ynghylch problemau personol, rhywiol ac ati'n eu "hymgeleddu" (byddwn i braidd yn amheus o unrhyw swyddog gwryw a ddymunai ymgeleddu myfyrwraig drallodus ...). Ystyr 'ymgeleddu', i mi, yw helpu drwy roi cysur: mae GPC (td 3779) yn cynnig yr ystyron 'gofalu am, edrych ar ôl, swcro, coleddu, llochesu, cysuro, meithrin, maethu, darparu ar gyfer', ac yn Saesneg - yn ogystal â 'to succour' - to care for, look after, cherish, shelter, comfort, foster, nourish, provide for, support'. Yr ystyron olaf hynny sy'n peri i mi feddwl nad yw 'ymgeleddu' yn taro deuddeg.
 
'Cynghori' a 'chynghori personol' yw ffordd Prifysgol Caerdydd o wahaniaethu rhwng 'to advise' a 'to counsel'. Er nad yw'n ateb cwbl gyfforddus ym mhob cyd-destun, mae'n awgrymu'n gryf bod gwahaniaeth rhwng y ddau fath o gyngor - y naill yn un eithaf ffeithiol a'r llall yn ymwneud â materion mwy personol. Mae'n taro naw neu ddeg gan amlaf, os nad deuddeg.
 
Dyna, o leiaf, fy nghyngor personol i ...
 
Berwyn

----- Original Message ----- 
From: Catrin Beard <mailto:[log in to unmask]>  
To: [log in to unmask] 
Sent: Monday, January 07, 2008 11:34 AM
Subject: counselling


Bore da - blwyddyn newydd dda
 
Cwnsela ynteu Cynghori?
 
Mae dros 3,000 enghraifft o Cwnsela ar gwgl, ond Cynghori mae TermCymru yn ei gynnig fel cyfieithiad (statws 4).
Pa un ym marn defnyddwyr y Cylch sydd orau?
 
Diolch yn fawr
Catrin
 
 













  _____  




No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition. 
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.17.13/1212 - Release Date: 06/01/2008 22:55