Ond mae ‘ymatal rhwng’ yn swnio’n lot mwy diddorol nag ‘ymatal rhag’. Gellid dadlau bod rhywun sydd mewn cyflwr o ymatal yn bodoli mewn cyflwr ‘rhwng’ (‘rhyngol’, ‘rhyngdod’, ‘rhyngedd’ ?), rhyw fath o ‘in-between’ o gyflwr tebyg iawn i rywun o Fachynlleth o bosib? Gellid maentumio bod pawb ‘rhwng’ mewn rhyw fodd neu’i gilydd drwy’r amser (chwedl Gruff Rhys). Bydd gwobr i’r sawl sy’n sbotio’r camgymeriad bwriadol yn y llith uchod.

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 16 January 2008 08:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: amrywedd

 

Meidrol ydym oll ... - a beth yw'r adnod am y trawst yn dy lygad dy hun? Gwell i mi deipio'r ymadrodd "'rhag' yn lle 'rhwng" gan gwaith!

 

Fel rheol, bydda i'n darllen e-bost bedair gwaith cyn ei anfon. Dyna'r unig ffordd o fod yn weddol sicr nad oes gormod o gamgymeriadau ynddo.

 

Berwyn

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

Sent: Tuesday, January 15, 2008 5:32 PM

Subject: Re: amrywedd

 

Gyda llaw, Berwyn, a oeddet ti wedi rhoi "ymatal rhwng" yn fwriadol er mwyn bod yn ddiymhongar.

 

(Dywedodd dysgwr wrthyf neithiwr "You know I tend to be self-depreciating about my Welsh".  Ann:  "You're going to hate me for this, but I think it's "self-deprecating.")

 

Ann

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

Sent: Tuesday, January 15, 2008 5:15 PM

Subject: Re: amrywedd

 

'Rwyf wedi sylwi ers talwm, Berwyn, na alla i bron byth ysgrifennu neges at y cylch - yn arbennig neges yn beirniadau Cymraeg rhywun arall - heb wneud camgymeriad fy hun. 

 

Er hynny, diolch am gefnogi fy marn i!

 

Hwyl,

 

Ann

 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Berwyn Jones

Sent: Tuesday, January 15, 2008 4:56 PM

Subject: Re: amrywedd

 

Ceir 'amrywedd' am 'variability' yn Ngeiriadur Termau Jac L ... a pham rhoi 'balans' (a'i droi'r air benywaidd) yn lle 'cydbwysedd'? Mae'n amlwg bod yr awdur wedi'i (d)dallu gan dermau a heb feithrin digon o grebwyll i wybod pryd y mae ymatal rhwng defnyddio geiriau termllyd (chwedl Geraint L).

 

Dim ond tynnu dy goes di, Ann, ond rwy'n amau ai 'amwyiaeth' sydd yn Gyr A a termcymru!

 

Berwyn

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

Sent: Tuesday, January 15, 2008 3:57 PM

Subject: amrywedd

 

'Rwyf wrthi'n cyfieithu set o gofnodion o'r Gymraeg.

 

Gweler isod (1) y cofnod, (2) fy nghwestiwn, (3) ateb y swyddog, (4) fy sylwadau pellach. 

 

(1) "Pwysleisiodd y Llywydd bwysigrwydd sicrhau amrywedd ymhlith aelodau’r Corff ynghyd â balans briodol o gymwyseddau priodol wrth benodi aelodau newydd."

(2) Onid "amrywiaeth"?

(3) "Amrywedd" yw'r gair a arferir yma; yn Saesneg "diversity". Gair yr oes!

(4) 'Dyw Bruce ddim yma imi ei holi, ond o ble daeth y gair "amrywedd"?  Yn ol Cysgliad mae'n golygu "variate, variance", ac yn ol Geiriadur y Brifysgol mae'n ansoddair sy'n golygu "multiform". Ni welaf "amrywedd" dan "variety" yng Ngeiriadur yr Academi nac yn TermCymru (geirfa y Cynulliad) chwaith.  "Amwyiaeth" sydd gan y ddau.  Holaf ymhellach.

 

Oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth ynghylch y defnydd hwn o "amrywedd"?  A oes 'na unrhyw gyfiawnhad drosto?

 

Diolch,

 

Ann

 


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.2/1224 - Release Date: 14/01/2008 17:39


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.2/1224 - Release Date: 14/01/2008 17:39


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.2/1224 - Release Date: 14/01/2008 17:39


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.4/1227 - Release Date: 16/01/2008 01:40