Meidrol ydym oll ... - a beth yw'r adnod am y trawst yn dy lygad dy hun? Gwell i mi deipio'r ymadrodd "'rhag' yn lle 'rhwng" gan gwaith! Fel rheol, bydda i'n darllen e-bost bedair gwaith cyn ei anfon. Dyna'r unig ffordd o fod yn weddol sicr nad oes gormod o gamgymeriadau ynddo. Berwyn ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, January 15, 2008 5:32 PM Subject: Re: amrywedd Gyda llaw, Berwyn, a oeddet ti wedi rhoi "ymatal rhwng" yn fwriadol er mwyn bod yn ddiymhongar. (Dywedodd dysgwr wrthyf neithiwr "You know I tend to be self-depreciating about my Welsh". Ann: "You're going to hate me for this, but I think it's "self-deprecating.") Ann ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, January 15, 2008 5:15 PM Subject: Re: amrywedd 'Rwyf wedi sylwi ers talwm, Berwyn, na alla i bron byth ysgrifennu neges at y cylch - yn arbennig neges yn beirniadau Cymraeg rhywun arall - heb wneud camgymeriad fy hun. Er hynny, diolch am gefnogi fy marn i! Hwyl, Ann ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, January 15, 2008 4:56 PM Subject: Re: amrywedd Ceir 'amrywedd' am 'variability' yn Ngeiriadur Termau Jac L ... a pham rhoi 'balans' (a'i droi'r air benywaidd) yn lle 'cydbwysedd'? Mae'n amlwg bod yr awdur wedi'i (d)dallu gan dermau a heb feithrin digon o grebwyll i wybod pryd y mae ymatal rhwng defnyddio geiriau termllyd (chwedl Geraint L). Dim ond tynnu dy goes di, Ann, ond rwy'n amau ai 'amwyiaeth' sydd yn Gyr A a termcymru! Berwyn ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, January 15, 2008 3:57 PM Subject: amrywedd 'Rwyf wrthi'n cyfieithu set o gofnodion o'r Gymraeg. Gweler isod (1) y cofnod, (2) fy nghwestiwn, (3) ateb y swyddog, (4) fy sylwadau pellach. (1) "Pwysleisiodd y Llywydd bwysigrwydd sicrhau amrywedd ymhlith aelodau'r Corff ynghyd â balans briodol o gymwyseddau priodol wrth benodi aelodau newydd." (2) Onid "amrywiaeth"? (3) "Amrywedd" yw'r gair a arferir yma; yn Saesneg "diversity". Gair yr oes! (4) 'Dyw Bruce ddim yma imi ei holi, ond o ble daeth y gair "amrywedd"? Yn ol Cysgliad mae'n golygu "variate, variance", ac yn ol Geiriadur y Brifysgol mae'n ansoddair sy'n golygu "multiform". Ni welaf "amrywedd" dan "variety" yng Ngeiriadur yr Academi nac yn TermCymru (geirfa y Cynulliad) chwaith. "Amwyiaeth" sydd gan y ddau. Holaf ymhellach. Oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth ynghylch y defnydd hwn o "amrywedd"? A oes 'na unrhyw gyfiawnhad drosto? Diolch, Ann ------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.2/1224 - Release Date: 14/01/2008 17:39 -------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.2/1224 - Release Date: 14/01/2008 17:39 ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.2/1224 - Release Date: 14/01/2008 17:39 ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.4/1227 - Release Date: 16/01/2008 01:40