Cais gan un o gyn-ddisgyblion ein dosbarth
cyfieithu, sy'n awyddus i helpu'r grwp gwirfoddol hwn, sy'n ymdrechu i fod yn
ddwyieithog.
Yn ddelfrydol (!!!) byddai'n dda ganddynt
ddefnyddio'r un acronym yn y ddwy iaith - ac mae'n acronym gwych, on'd yw, efo
ystyron addas yn y ddwy iaith?
Cymeraf y byddai'n rhaid cychwyn "Bermo - xxxx"
. 'Dw i'n amau a oes modd cyflawni hyn o gwbl, felly croeso i awgrymiadau
ar gyfer acronym arall, Cymraeg, hefyd.
Mwynhewch yr her!!
Diolch yn fawr iawn,
Ann