Cais gan un o gyn-ddisgyblion ein dosbarth cyfieithu, sy'n awyddus i helpu'r grwp gwirfoddol hwn, sy'n ymdrechu i fod yn ddwyieithog. Yn ddelfrydol (!!!) byddai'n dda ganddynt ddefnyddio'r un acronym yn y ddwy iaith - ac mae'n acronym gwych, on'd yw, efo ystyron addas yn y ddwy iaith? Cymeraf y byddai'n rhaid cychwyn "Bermo - xxxx" . 'Dw i'n amau a oes modd cyflawni hyn o gwbl, felly croeso i awgrymiadau ar gyfer acronym arall, Cymraeg, hefyd. Mwynhewch yr her!! Diolch yn fawr iawn, Ann