Diolch un fawr am yr atebion. Mewn llythyr dyddiedig 1837 ymddangosodd yr ymadrodd. Roedd y 'cawgiad meryn' ynghyd a hosanau a 'Bladur gwedi llifo dda wrth fy modd' wedi eu hanfon i rhywun - drwy'r post mae'n debyg. Dafydd On Thu, 10 Jan 2008 09:30:02 -0000, GERAINT LOVGREEN <[log in to unmask]> wrote: >Ond gan mai 'cawgiad' ydio ac nid 'cawg' mae'n debygol mai at y stwff sydd >yn y cawg y mae'r 'meryn' yn cyfeirio, ynde? > >----- Original Message ----- >From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> >To: <[log in to unmask]> >Sent: Wednesday, January 09, 2008 1:19 PM >Subject: Re: cawgiad meryn > > >> Neges gan Bruce: >> Hoffwn wybod y cyd-destun, dyddiad y testun &c. >> Gallai fod yn ffurf wallus ar "cawg meryw" [ynteu a ydych chi'n gweithio a >> ffoto-copi o lawysgrifen? - Ann] , cawg wedi ei wneud o bren y ferywen >> (juniper): anhebygol iawn ar yr olwg gyntaf, ond mae un math o ferywen (J. >> virginica) o America, a elwir yn aml yn "red cedar" a ddefnyddir i wneud >> dodrefn &c; hefyd J. Phoenicea, merywen Phoenicia. >> ----- Original Message ----- >> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> >> To: <[log in to unmask]> >> Sent: Wednesday, January 09, 2008 8:18 AM >> Subject: Re: cawgiad meryn >> >> >>> Dyw'r gair 'meryn' ddim i'w weld yng Ngeiriadur y Brifysgol. Y ffurf >>> agosaf ato yw 'merin' (o dan 'mierinllwyn, me(i)rinllwyn' - bramble) yn >>> yr enw 'merin llwyn' - a bramble bush. >>> >>> Wn i ddim a yw hynny o unrhyw gymorth. (A yw'n gamsillafiad o air arall, >>> e.e. menyn?) >>> >>> Berwyn >>> >>> ----- Original Message ----- >>> From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]> >>> To: <[log in to unmask]> >>> Sent: Tuesday, January 08, 2008 4:57 PM >>> Subject: cawgiad meryn >>> >>> >>> Hen eiriau. Powlen o rywbeth? >>> Dafydd >>> >>> >>> >>> -- >>> No virus found in this incoming message. >>> Checked by AVG Free Edition. >>> Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.17.13/1214 - Release Date: >>> 08/01/2008 13:38 >>> >>> >>> -- >>> No virus found in this incoming message. >>> Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.516 / Virus Database: >>> 269.17.13/1214 - Release Date: 08/01/2008 13:38 >>> >>> >> >=========================================================================