> > 'Cynghori' a 'chynghori personol' yw ffordd Prifysgol Caerdydd o > wahaniaethu rhwng 'to advise' a 'to counsel'. Er nad yw'n ateb cwbl > gyfforddus ym mhob cyd-destun, mae'n awgrymu'n gryf bod gwahaniaeth > rhwng y ddau fath o gyngor - y naill yn un eithaf ffeithiol a'r llall yn > ymwneud â materion mwy personol. Mae'n taro naw neu ddeg gan amlaf, os > nad deuddeg. > Mae hynny'n codi problem arall. Yn aml iawn rydym yn cyfieithu ymadrodd fel 'personal advice' mewn materion ariannol etc. hy yn lle mynd i'r wefan neu ddarllen llyfryn mae'r myfyriwr yn gallu mynd i weld rhywun a chael 'cyngor personol' ynghylch dyled, ffioedd, grantiau caledi etc. Dyna pam mae'n well gen i gwnsela er nad yw'n air y byddwn yn ei ddefnyddio ar lafar. Efallai fod ei ystyr yn wahanol i'r ystyr technegol ym maes y gyfraith ond am wn i mae'n gwneud y tro i wahaniaethu rhwng y ddau gysyniad lle mae angen. > 'When I use a word,' Humpty Dumpty said, in a rather scornful tone,' it means just what I choose it to mean, neither more nor less.' Sylvia. -- Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]> Uned Gyfieithu/Translation Unit Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor -- Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of the Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office. www.bangor.ac.uk