----- Original Message -----
Sent: Wednesday, January 16, 2008 10:25
AM
Subject: Re: Cytundebau Mawrion
Mae hynna'n isel iawn!
Dwi'n falch o weld trafodaeth fel yma'n cael ei chynnal.
Mae'n ddigon anodd bod yn gyfieithydd llawrydd ar brydiau fel mae hi, heb
i gwmniau mawr fel hyn fod yn cymryd y mic!
Dwi'n cytuno efo Catrin y dylai'r tal adlewyrchu'r gwaith - ac ystyried
pethau fel y llawysgrifen bler a'r amser byr a gawn ni i wneud y gwaith yma'n
aml.
Roeddwn i wedi edrych ymlaen i gael rhywfaint o waith gan y cytundeb yma
ddechrau'r flwyddyn, gan y byddai wedi dod ag arian bach da- y mae mawr ei
angen ar ol y Nadolig! - ond dwi ddim yn siwr a fydden i'n fodlon gwneud
y gwaith am lai.
Mae'n sefyllfa anodd iawn - ar yr un llaw, dwi ddim yn hoffi gwrthod
gwaith (mae angen talu'r morgais rhywsut yn does!), ond ar y llaw arall, dwi
ddim yn meddwl y dylen ni orfod derbyn telerau gwael.
Mae na sbardun syniad da iawn yma gan Ann am gydweithio. Efallai ei fod
yn rhywbeth y dylid ei ymchwilio ymhellach.
Gwenllian
Ie, Annes, dyna'r cwmni, ac maen nhw'n cynnig
£45 y fil. Gan ein bod ni'n enwi enwau, gwell imi atgoffa pobl: nid
oes gen i unrhyw ymrwymiad i'r cwmni yn Swydd Efrog, yn gyfreithiol nac yn
emosiynol, felly nid wyf yn torri unrhyw gyfrinachedd wrth son amdanynt, ond
cymeraf y bydd unrhyw un sy'n derbyn y gwaith yn arwyddo rhyw fath o
ymrwymiad iddynt. Mae rhai ohonom eisoes wedi ymrwymo i'r cwmni arall
o ran datgelu rhai pethau, er ni welaf ein bod ni'n cyffwrdd arnynt ar hyn o
bryd.
Ann
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, January 16, 2008
9:13 AM
Subject: Re: Cytundebau Mawrion
Ai son rydan ni am y cwmni na yn swydd Efrog a phapura arholiad
cymdeithaseg a seicoleg? Dwi wedi anfon fy CV atyn nhw ac wedi cael ateb
yn deud y basan nhw'n rhoi gwbod i mi maes o law. Felly fedra i ddim
gwneud llawer o gyfraniad hyd yn hyn i'r drafodaeth, heb glywed be ydi'r
cyfradda maen nhw'n eu cynnig.
Annes
2008/1/15, Ann Corkett <[log in to unmask]>:
Annwyl Bawb,
Anfonaf y neges hon at Gylch Trafod y Gymdeithas a hefyd at
Welsh-Termau-Cymraeg er y teimlaf mai yn y cyntaf, ac yng nghyfarfodydd
y Gymdeithas, yw'r lleoedd mwyaf priodol i drafod y
pwnc.
Ers dwy flynedd 'rwyf wedi bod yn gweithio, fel nifer fawr ohonoch
mae'n siwr, ar gytundeb mawr i asiantaeth Gymreig gyfeillgar a threfnus.
Gan fod y cytundeb, i bob golwg, wedi'i gyflawni'n foddhaol, 'roeddwn i
wedi bod yn gobeithio gwneud yr un peth eto eleni.
Y tro cyntaf imi sylweddoli nad oedd yr asiantaeth wedi ennill
y cytundeb oedd pan gefais ymholiad, gan gwmni y tu allan i Gymru,
yn gofyn a oeddwn i'n barod i weithio arno iddyn nhw. Y tro cyntaf i'r
asiantaeth arall sylweddoli nad oedd wedi llwyddo oedd pan gysylltais i
a^ nhw i holi ynghylch y sefyllfa! Atebais yr ymholiad, gan anfon CV,
so^n am fy mhrofiad yn y maes, a dweud y byddwn i'n disgwyl tua'r un
graddfeydd ag yr oeddwn wedi'u derbyn yn y gorffennol. Cefais gynnig
oedd yn *sylweddol* is, gyda'r geiriau:
Whilst your rates are, of course, at your discretion, this is a
new Client and we have had to offer them an extremely competitive rate
in order to win the contract. ... I would assure you that we do not
compromise quality over price, however, providing quality and skills are
equal, price becomes the deciding factor for us as it does to our end
Client."
I mi, mae hyn cystal a dweud, "yr unig ffordd y gallem ennill y
cytundeb oddi ar y cwmni a oedd yn gwneud y gwaith oedd trwy eich blingo
chi."
Fy mwriad i yw gwrthod y cyfle i ymuno a'r tim, ac efallai bydd
eraill yn gwneud yr un peth, ond sylweddolaf y bydd yna nifer fawr
ohonoch sydd wedi edrych ymlaen at y gwaith hwn, ac sydd wedi cadw eich
amser yn weddol glir ar ei gyfer - efallai byddwch yn teimlo bod rhaid
ichi dderbyn y raddfa is. Bum yn pendroni hefyd, "Beth os bydd llawer o
bobl yn gwrthod y graddfeydd is, fel na all y cwmni gwblhau'r cytundeb
mewn pryd? Sut all y cwmni weithredu?" Nid wyf yn un a llawer o ben ar
gyfer busnes, ond efallai fy mod i'n sinigaidd - tybed a fydden nhw'n
cynnig pris uwch i'r bobl a oedd wedi gwrthod - ond yn mynnu
cyfrinachedd fel na fyddai'r gweddill yn cael gwybod?
Mae'r holl beth yn drist, gan fod gwaith y cytundeb yn waith
pwysig, gwaith sydd angen ei wneud mewn da bryd ac mor gywir ag y bo
modd.
'Rwyf wedi son o'r blaen wrth gyfieithwyr eraill am y ffaith bod
llawer o hufen y cytundebau mawrion yn mynd i asiantaethau dros y ffin,
sy'n medru prynu gwaith yr un hen rai yng Nghymru efo'r llaeth
sgim. Onid yw hi'n bryd inni feddwl am weithredu? A oes modd inni ddod
at ein gilydd, gyda help gan y Gymdeithas, neu gan asiantaeth Gymraeg, i
gynnig am gytundebau mawrion, hyd yn oed am y cytundeb hwn (sy'n un
enfawr) y flwyddyn nesaf? Byddai'n rhaid buddsoddi ychydig bach ymlaen
llaw, i gyflogi rhywun i ysgrifennu'r cais (gallaf feddwl am un unigolyn
posibl, o leiaf), a rhaid i bob un gyfrannu rhan o'i dal i gyflogi
gweinyddwr. A yw Canolfan Cydweithredol Cymru yn dal i weithredu o gwbl?
A oes help i gael o rywle?
Na, nid wyf yn cynnig gwneud y gwaith - ond mae'n hen bryd inni
ddechrau meddwl am hyn, yn lle bod ar drugaredd pobl eraill.
Dymuniadau gorau,
Ann
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free
Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.4/1227 - Release
Date: 16/01/2008
01:40