On Wed, Jan 09, 2008 at 12:58:54PM -0000, Berwyn Jones wrote: > Rwy' wedi defnyddio 'theori hoyw' am 'queer theori' fel teitl cwrs a does neb wedi'i gywiro fe hyd yn hyn ... Dwi'm yn meddwl allwch chi gyfieithu y term yn y cyd-destun yma am ei fod yn hunan-ddiffiniol a mae'r term wedi ei ddewis yn fwriadol yn y saesneg i osgoi cysylltiad gyda 'gay' neu dermau tebyg ar gyfer rhywioldeb 'arall'. Mae e fel trio cyfieithu term fel 'nigga' - gair wedi ei addasu, ail-feddiannu ac ail-ddiffinio gan rai pobl ddu, yn yr un modd mae queer wedi ei ail-feddiannu gan rai pobl hoyw.