Dyma fersiwn Cymraeg o nodyn a anfonwyd cyn Nadolig / This is the Welsh translation of a message that was sent out before Christmas. - Gwyl Gwanwyn Dathlu llwyddiant Bu gwyl gwanwyn mis Mai 2007 yn llwyddiant mawr. Dros100 o ddigwyddiadau ledled Cymru. Cyngherddau clasurol a bandiau pres, digwyddiadau ysgrifennu a barddoni, arddangosfeydd celf a chrefft a sesiynau blasu i ddathlu dawn artistig a chreadigrwydd pobl hyn a chyfle i annog pobl eraill i ymuno yn yr hwyl! Mae'n bryd trefnu ar gyfer gwanwyn 2008 ac mae sawl newydd da i'ch rhoi ar ben ffordd. Dewch i gyfarfod â'r Swyddog Datblygu newydd Bellach mae gan gwanwyn ei Swyddog Datblygu ei hun fydd yn datblygu gwyl gwanwyn i'w llawn botensial. Mae gan Phil Thomas gefndir mewn cerddoriaeth, hel straeon, ethnogerddoreg a rheoli prosiectau celfyddydol. Bydd ei waith yn cynnwys rhoi unrhyw gymorth y byddwch ei angen wrth i chi drefnu gweithgaredd gwanwyn a sicrhau ei lwyddiant. Os am gymorth gyda syniadau, ffynonellau ariannol, cyhoeddusrwydd neu farchnata, cysylltwch â Phil. Dywedwch wrtho cyn gynted ag y bo modd pa drefniadau sydd ar y gweill gennych ar gyfer gwyl 2008. Phil Thomas Swyddog Datblygu'r Celfyddydau a Chreadigrwydd Gwyl gwanwyn Rhif ffôn uniongyrchol: 029 20 431540 www.gwanwyn.org.uk <http://www.gwanwyn.org.uk/> / www.accymru.org.uk <http://www.accymru.org.uk/> E-bost: [log in to unmask] Darllenwch dudalennau'r wefan i gael gwybod beth mae pobl eraill yn ei wneud ac i lawrlwytho dogfennau defnyddiol i'ch rhoi ar ben ffordd.... Ffwrdd â chi.... Beth sy'n digwydd? Cysylltwch â ni i ddweud pa drefniadau sydd ar y gweill gennych ar gyfer gweithgaredd gwanwyn ym mis Mai 2008. Gallwn eich helpu mewn sawl ffordd: Cyhoeddusrwydd a Thaflen Wybodaeth Gallwch gael posteri a thaflenni gwanwyn am ddim i hysbysebu'ch digwyddiad yn lleol a'i gynnwys ar galendr ein gwefan yn www.gwanwyn.org.uk . Hefyd, byddwn yn dosbarthu taflen wybodaeth ledled Cymru eleni i roi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau gwanwyn. Anfonwch fanylion eich digwyddiad atom erbyn diwedd Ionawr 2008 er mwyn ei gynnwys. Cymorth gydag adnoddau Eleni mae gwanwyn wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Celfyddydau Cymru. Gallwn felly gynnig cymorth uniongyrchol i ddigwyddiadau llai a'ch cyfeirio at ffynonellau ariannol eraill posibl ar gyfer prosiectau mwy. Gall gweithgareddau gwanwyn gynnwys: Peintio Dylunio Cerddoriaeth Dawns Drama Ffilm Hel Straeon Barddoniaeth Cerflunwaith Ffotograffiaeth Celf Ddigidol ...a llawer mwy mae'n siwr.. Efallai y bydd angen i chi ... Dalu tiwtoriaid neu hwyluswyr gweithdai Llogi adeiladau neu offer Marchnata neu roi cyhoeddusrwydd i'ch gweithgaredd neu ddigwyddiad Gwybod â phwy i gysylltu Mae gwanwyn yn ymwneud â'r Celfyddydau, Creadigrwydd a chyfrannu felly... Cymerwch ran..Byddwch yn greadigol! Cysylltwch nawr! --- Elizabeth Bennett Swyddog Cyngor a Chefnogaeth - Advice and Support Officer CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - CyMAL: Museums, Archives and Libraries Wales Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Assembly Government Uned 10, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH. Unit 10, Science Park, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH. Ffon/Tel: 01970 610235 Ffacs/Fax: 01970 610223 Rhif GTN/GTN No: 7 2846 0235 e-bost/e-mail: [log in to unmask] The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet virus scanning service supplied by Cable&Wireless in partnership with MessageLabs. (CCTM Certificate Number 2006/04/0007.) On leaving the GSi this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. Cafodd fersiwn gwreiddiol y neges e-bost hon ei sganio gan wasanaeth gwrthfeirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a ddarparwyd gan Cable&Wireless mewn partneriaeth â MessageLabs. (Rhif Tystysgrif CCTM 2006/04/0007). Wrth adael y GSI nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSI yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.