Print

Print


Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008

Mae Tîm Cyfathrebu Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad wedi penodi asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus i helpu hyrwyddo Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008 yng Nghymru. Mae Working Word, cwmni sy'n seiliedig yng Nghymru, yn mynd rhagddo'n dda gyda'r cynlluniau ar gyfer y mis a byddwn mewn cysylltiad yn gyson drwy'r bwletinau hyn. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am ddigwyddiadau sydd gennych ar y gweill neu os hoffech help gyda syniadau, medrwch gysylltu â Caroline Holmes neu Fiona Anderson yn Working Word ar 02920 488788 neu e-bost [log in to unmask] neu [log in to unmask]

Grantiau CyMAL - cyfle olaf i wneud cais
Mae'r dyddiad cau ar gyfer grantiau ar gyfer digwyddiadau Mis Amgueddfeydd ac Orielau yn agosáu'n gyflym. Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 25 Ionawr 2008. Mae gwybodaeth ar gael o wefan www.cymal.wales.gov.uk dan yr adran grantiau 2008-9, ynghyd â chynghorion ar sut i wneud cais llwyddiannus. Mae'r rhain yn cynnwys:
*	Cynghorion ar gyflwyno - e.e. defnyddio pwyntiau bwled.
*	Gwybodaeth ar sut i lenwi pob adran o'r ffurflen.
*	Meddwl am y ffurflen gais o safbwynt yr asesydd. A yw'n glir? A yw'n gryno?
Caiff ceisiadau ar gyfer cyllid Mis Grantiau ac Orielau eu trin mor gyflym ag sy'n bosibl a chânt eu hystyried ar wahân i unrhyw brosiectau eraill a gyflwynwyd.
Felly am beth ydych chi'n aros? Anfonwch eich cais yn awr!
Syniadau ac Arloesedd
Mae Syniadau ac Arloesi, y thema ar gyfer Mis Amgueddfeydd ac Orielau'r mis hwn, yn eang iawn a medrir ei weithredu i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Rydym hefyd wedi datblygu'r is-bennawd - Yr Hyn a Wnaeth Cymru i'r  Byd - i'ch helpu i benderfynu ar ddigwyddiadau a gweithgareddau yn gysylltiedig â'r thema. Mae gennym lawer o syniadau gwych yn yr arfaeth ar gyfer Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008 - dywedwn fwy wrthych amdanynt mewn bwletinau yn y dyfodol.
Hoffem i bob amgueddfa ac oriel yng Nghymru gynnal eu digwyddiad eu hunain i ddathlu Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008 ac annog cynifer o ymwelwyr ag sydd modd yn ystod y mis. Mae'r dilynol yn rhai enghreifftiau o ddigwyddiadau llwyddiannus o Fis Amgueddfeydd ac Orielau'r llynedd ac efallai y byddant o help i chi wrth gynllunio digwyddiad diddorol ac anarferol yn gysylltiedig â Syniadau ac Arloesi ar gyfer eleni:
	·	Gweithdai mosaig Rhufeinig yn y Baddondy Rhufeinig ym Mhrestatyn
	·	Arddangosfa ar fywyd yr actor lleol Peter Halliday yn Amgueddfa Powysland
	·	Teithiau tu hwnt i'r llenni yng ngwaith aur Dolaucothi yn Sir Gaerfyrddin
	·	Arddangosfa ryngweithiol yn rhoi sylw i gyfraniad Abertawe i fyd cerdd yn Amgueddfa Abertawe
	·	Teithiau tywys gan actorion lleol yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis
	·	Arddangosfa o long danfor suddedig Resurgam yn Neuadd y Dref, Y Rhyl
	·	Golwg archif ar waith Laura Ashley yn Amgueddfa Llanidloes
Mae Cymru wedi adnabod llawer o arloeswyr a phobl gyda syniadau newydd dros y canrifoedd, felly beth am gynllunio digwyddiad sy'n wahanol i'r gweithgaredd arferol?
---
Elizabeth Bennett 

Swyddog Cyngor a Chefnogaeth - Advice and Support Officer 

CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - CyMAL: Museums, Archives and Libraries Wales 
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Assembly Government 

Uned 10, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH. 
Unit 10, Science Park, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH. 
Ffon/Tel: 01970 610235 
Ffacs/Fax: 01970 610223 
Rhif GTN/GTN No: 7 2846 0235 
e-bost/e-mail: [log in to unmask] 



The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet virus scanning service supplied by Cable&Wireless in partnership with MessageLabs. (CCTM Certificate Number 2006/04/0007.) On leaving the GSi this email was certified virus free.
Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.

Cafodd fersiwn gwreiddiol y neges e-bost hon ei sganio gan wasanaeth gwrthfeirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a ddarparwyd gan Cable&Wireless mewn partneriaeth â MessageLabs. (Rhif Tystysgrif CCTM 2006/04/0007). Wrth adael y GSI nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.
Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSI yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.