Ydw, bron yn ddieithriad - gadael i'r darllenydd ddefnyddio'r ffurf sydd orau ganddo/ganddi.
 
Hg


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gwenllian Mair Williams
Anfonwyd/Sent: 04 December 2007 13:43
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: 11fed/11eg

Diolch i bawb am yr ymateb.
Roeddwn i'n ymwybodol ei fod yn mynd i ymddangos fel cwestiwn gwirion i rai!
 
Y broblem ydi y byddwn i'n rhoi unfed ar ddeg yn reddfol wrth ysgrifennu, ond yn dweud unarddegfed ar lafar (ond byth un deg unfed!), felly roeddwn i wedi drysu braidd.
 
Faint ohonoch chi sy'n hepgor y fed/eg wrth nodi dyddiadau erbyn hyn? Mae o'n fwy cyffredin i nodi'r rhif yn unig yn y Saesneg yn tydi, felly yda chi'n dilyn yr un arfer wrth gyfieithu?
 
Gwenllian
 

Rhian Jones <[log in to unmask]> wrote:
Mae J. Elwyn Hughes, yn Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg, yn dweud bod dwy ffordd o gyfrif yn Gymraeg, y ffordd draddodiadol a'r ffordd 'newydd'. Mae o'n dweud bod y system draddodiadol (gyda threfnolion) yn gallu bod yn eithriadol o gymhleth fel yr â yn ei blaen, ond nad ydi ffurfio trefnolion gyda'r system 'newydd' wedi bod yn hawdd. Yn fyr iawn, mae o'n dweud 'mentraf gynnig awgrymiadau yn y tablau a ganlyn ynglyn â sut y gellir goresgyn yr anhawster.'  Awgrymiadau ydyn nhw. Ar gyfer 'thirty-first' mae'r tabl yn rhoi 'unfed ar ddeg ar hugain' (traddodiadol) a 'tri deg unfed' (newydd). Yn yr un modd, ar gyfer 'eleventh' mae'r tabl yn rhoi 'unfed ar ddeg' (traddodiadol) ac 'un deg unfed' (newydd).  (tud. 11.7) Mae'r tabl yn edrych yn debyg iawn i'r hyn sydd yn 'Bilingualism and Number in Wales', Gareth Roberts.
Rhian (traddodiadol)


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.13/1169 - Release Date: 03/12/2007 22:56


No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.13/1169 - Release Date: 03/12/2007 22:56