Mae J. Elwyn Hughes, yn Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg, yn dweud
bod dwy ffordd o gyfrif yn Gymraeg, y ffordd draddodiadol a'r ffordd 'newydd'.
Mae o'n dweud bod y system draddodiadol (gyda threfnolion) yn gallu bod yn
eithriadol o gymhleth fel yr â yn ei blaen, ond nad ydi ffurfio trefnolion
gyda'r system 'newydd' wedi bod yn hawdd. Yn fyr iawn, mae o'n dweud
'mentraf gynnig awgrymiadau yn y tablau a ganlyn ynglyn â sut y gellir goresgyn
yr anhawster.' Awgrymiadau ydyn nhw. Ar gyfer 'thirty-first' mae'r
tabl yn rhoi 'unfed ar ddeg ar hugain' (traddodiadol) a 'tri deg unfed'
(newydd). Yn yr un modd, ar gyfer 'eleventh' mae'r tabl yn rhoi 'unfed ar ddeg'
(traddodiadol) ac 'un deg unfed' (newydd). (tud. 11.7) Mae'r tabl yn
edrych yn debyg iawn i'r hyn sydd yn 'Bilingualism and Number in Wales', Gareth
Roberts.
Rhian (traddodiadol)