Print

Print


Dim ond profiad o DejaVu sy gen i, Sioned, a dim ond fel cyfieithydd unigol. Mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio a dw i'n gwybod bod fersiwn i'w gael ar gyfer gweithio fel grw^p. Dydy o ddim yn rhad - tua £600 dalais i rhyw dair blynedd yn o^l, ond mae'n ddidrafferth iawn ar o^l i rywun ddod i'w ddeall. (Mi ges i bnawn o hyfforddiant yn Abertawe cyn ei brynu, a dw i'n meddwl bod Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi cynnal sesiynau hyfforddi yn y gorffennol hefyd.) Mae 'na gylch trafod - mae'r trafodaethau'n rhai astrus ar gyfer pobl sy'n dechnolegol abal, ond wedi dweud hynny, bob tro rydw i wedi gofyn cwestiwn, mae 'na rhywun caredig wedi ateb. Dw i'n hoffi'r ffordd mae'r testun yn cael ei osod mewn dwy golofn - iaith wreiddiol a'r targed ochr yn ochr, a'r ffordd y mae modd storio terminoleg, ond mae'n siwr bod pecynnau eraill yn gwneud hynny hefyd.
Os hoffet ti ddod draw i Lantrisant i weld DVX ar waith, can croeso!
Glenys

sioned Edge <[log in to unmask]> wrote:
Prynhawn da

Tybed fedrwch chi helpu os gwelwch yn dda. O'ch profiad chi -

Pa offer cof cyfieithu fyddai fwyaf addas ar gyfer awdurdod lleol gyda dim
ond 2 gyfieithydd?

Faint fyddai hwnnw'n debygol o gostio?

Dim ond rhyw syniad bras sydd ei angen arna' i - dw i wedi cael cipolwg ar
wefan Trados ond mae yna gymaint o wahanol becynnau i'w cael a dim rhestr
prisiau hyd y gwela i!!!!

Diolch

Sioned.