Heb amheuaeth, Wordfast (www.wordfast.com). Mae'n hawdd ei ddeall ac yn hawdd ei ddefnyddio. Roedd yn arfer bod yn rhatach o dipyn na Trados a'r pecynnau mawr eraill ond dw i ddim yn gwybod faint yn rhatach yw e erbyn hyn (€250 am drwydded yn ol y wefan).
Y fantais arall i Wordfast yw bod sawl un ohonom ni ar W-T-C yn ei ddefnyddio'n rheolaidd, ac yn gallu cynnig cynghorion ar sut i'w ddefnyddio.
Hg
On 17/12/2007,
sioned Edge <[log in to unmask]> wrote:
Prynhawn da
Tybed fedrwch chi helpu os gwelwch yn dda. O'ch profiad chi -
Pa offer cof cyfieithu fyddai fwyaf addas ar gyfer awdurdod lleol gyda dim
ond 2 gyfieithydd?
Faint fyddai hwnnw'n debygol o gostio?
Dim ond rhyw syniad bras sydd ei angen arna' i - dw i wedi cael cipolwg ar
wefan Trados ond mae yna gymaint o wahanol becynnau i'w cael a dim rhestr
prisiau hyd y gwela i!!!!
Diolch
Sioned.