tridegunfed, siwr iawn. ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 04, 2007 12:44 PM Subject: Re: 11fed/11eg 'Unfed ar ddeg' yw'r unig ffurf sydd i'w gweld yn 'Elfennau Gramadeg Cymraeg' Stephen J Williams, Geiriadur yr Academi a Geiriadur Bach Gomer. (Dyw 'Gramadeg y Gymraeg' ddim yn cyfeirio at y ffurf o gwbl, hyd y gwela i.) Dyw'r ffurf 'unarddegfed' ddim i'w gweld yng Ngeiriadur y Brifysgol nac yn yr un geiriadur arall (gobeithio!). Ceir chwe enghraifft ohoni ar Google, gan gynnwys un mewn trafodaeth ar Maes-e ynghylch pa ffurf sy'n gywir. A chymryd 'unarddegfed' yn batrwm, beth fyddai'r unfed ar ddeg ar hugain, tybed? Unarddegarhugeinfed? Berwyn ----- Original Message ----- From: Melanie Davies To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 04, 2007 10:14 AM Subject: Re: 11fed/11eg Unfed ar ddeg fydden i'n dweud. ----- Original Message ----- From: Gwenllian Mair Williams To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, December 04, 2007 10:04 AM Subject: 11fed/11eg O ran diddordeb, pa ddiweddiad sy'n gywir wrth roi dyddiadau? Unarddeg/Unfed ar ddeg o Ragfyr neu Unarddegfed o Ragfyr? Anghytuno rhwng fi a ffrind, ac er y bydda i'n tueddu i geisio osgoi defnyddio'r eg/fed yn gyfan gwbl, mi hoffwn i wybod beth sy'n gywir. Diolch, Gwenllian ---------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.13/1169 - Release Date: 03/12/2007 22:56