Print

Print


'Unfed ar ddeg' yw'r unig ffurf sydd i'w gweld yn 'Elfennau Gramadeg Cymraeg' Stephen J Williams, Geiriadur yr Academi a Geiriadur Bach Gomer. (Dyw 'Gramadeg y Gymraeg' ddim yn cyfeirio at y ffurf o gwbl, hyd y gwela i.)
 
Dyw'r ffurf 'unarddegfed' ddim i'w gweld yng Ngeiriadur y Brifysgol nac yn yr un geiriadur arall (gobeithio!). Ceir chwe enghraifft ohoni ar Google, gan gynnwys un mewn trafodaeth ar Maes-e ynghylch pa ffurf sy'n gywir.
 
A chymryd 'unarddegfed' yn batrwm, beth fyddai'r unfed ar ddeg ar hugain, tybed? Unarddegarhugeinfed?
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Melanie Davies
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, December 04, 2007 10:14 AM
Subject: Re: 11fed/11eg

Unfed ar ddeg fydden i'n dweud.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Gwenllian Mair Williams
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, December 04, 2007 10:04 AM
Subject: 11fed/11eg

O ran diddordeb, pa ddiweddiad sy'n gywir wrth roi dyddiadau?
Unarddeg/Unfed ar ddeg o Ragfyr neu Unarddegfed o Ragfyr?
 
Anghytuno rhwng fi a ffrind, ac er y bydda i'n tueddu i geisio osgoi defnyddio'r eg/fed yn gyfan gwbl, mi hoffwn i wybod beth sy'n gywir.
 
Diolch,
Gwenllian


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.13/1169 - Release Date: 03/12/2007 22:56