Print

Print


Yn ‘The Gododdin of Aneirin’ (llyfr diddorol iawn) dwi’n meddwl bod John
Koch yn dweud bod Lloegr yn enw ar iseldir de Prydain yn yr hengerdd (ne
rwbath tebyg)

 

  _____  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 13 December 2007 12:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Gyda llaw, dywed Bruce bod Lloegr yn debyg o fod yn enw hen iawn, yn hy^n na
dyfodiad y Saeson.  Ond yr unig eglurhad y gwelodd o erioed oedd ei fod yn y
lle cyntaf yn enw ar yr ardal o gwmpas Caerlyr.  Felly, os daeth Iesu i Ynys
Wydryn, mae'n bosibl yr aeth o i Loegr hefyd!

Ann

----- Original Message ----- 

From: Gorwel <mailto:[log in to unmask]>  Roberts 

To: [log in to unmask] 

Sent: Thursday, December 13, 2007 11:57 AM

Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Ia digon gwir ond go brin y gallwn ni honni bod Crist wedi dod i Gymru
chwaith

 


  _____  


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 13 December 2007 11:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Ond 'doedd dim Lloegr bryd hynny! I Brydain y daeth, os i rywle.

Nid emyn moni hi, gyda llaw, ond cerdd gan Blake.

Ann

----- Original Message ----- 

From: Gorwel <mailto:[log in to unmask]>  Roberts 

To: [log in to unmask] 

Sent: Thursday, December 13, 2007 11:39 AM

Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Onid yw’r geiriau wedi eu seilio ar y syniad bod Iesu Grist wedi mynd i
Loegr neu rwbath i Glastonbury?

 


  _____  


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 13 December 2007 11:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Rhyfedd fel dan ni wedi derbyn fersiwn Cymraeg Finlandia i'n calonnau, ond
ddim hon... 

Gwrth-seisnigrwydd tybed?

----- Original Message ----- 

From: Catrin <mailto:[log in to unmask]>  Alun 

To: [log in to unmask] 

Sent: Thursday, December 13, 2007 11:07 AM

Subject: Re: emyn Jerusalem

 

A finna! O'n i'n methu deall y gwrthwynebiad i 'Jerusalem' achos doeddwn i
ddim yn gwybod y geiriau Saesneg!!

----- Original Message ----- 

From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]>  

To: [log in to unmask] 

Sent: Thursday, December 13, 2007 10:59 AM

Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Ew, da di hon! Dwi'n cofio'i chanu hi yn yr ysgol, cyn imi wybod bod na
fersiwn Saesneg!

----- Original Message ----- 

From: Rhian Jones <mailto:[log in to unmask]>  

To: [log in to unmask] 

Sent: Thursday, December 13, 2007 10:38 AM

Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Yn rhan yr Anthemau yn hen Lyfr Emynau a Thonau'r Methodistiaid (Rhif 41) -

A sangodd traed ein Harglwydd gynt

Anial fynyddoedd Cymru gu?

A welwyd sanctaidd Oen ein Duw

Hyd ddolydd gwyrddlas Cymru Fu?

A fu ei wyneb dwyfol Ef

Gynt yn goleuo'r dywyll fro?

A fu Jeriwsalem dinas Duw

Yng ngwlad y mwg a'r pyllau glo?

 

Rhowch im fy mwa euraid llosg!

Saethau fy nymuniadau glân!

Fy mhicell rhowch! O! gwmwl, hollt!

A dygwch im fy ngherbyd tân.

Ni chwsg fy nghleddyf yn fy llaw,

Ni ddianc f'enaid rhag y gad

Nes codi mur Jeriwsalem

Ar feysydd gwyrdlas Cymru fad.

 

(Yr Athro D. Miall Edwards)


  _____  


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition. 
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.17.1/1182 - Release Date: 12/12/2007
11:29


  _____  


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition. 
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.17.1/1182 - Release Date: 12/12/2007
11:29


  _____  


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition. 
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.17.1/1182 - Release Date: 12/12/2007
11:29