Onid yw’r geiriau wedi eu seilio ar y syniad bod Iesu Grist wedi mynd i Loegr neu rwbath i Glastonbury?

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 13 December 2007 11:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Rhyfedd fel dan ni wedi derbyn fersiwn Cymraeg Finlandia i'n calonnau, ond ddim hon...

Gwrth-seisnigrwydd tybed?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Catrin Alun

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Thursday, December 13, 2007 11:07 AM

Subject: Re: emyn Jerusalem

 

A finna! O'n i'n methu deall y gwrthwynebiad i 'Jerusalem' achos doeddwn i ddim yn gwybod y geiriau Saesneg!!

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Geraint Løvgreen

Sent: Thursday, December 13, 2007 10:59 AM

Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Ew, da di hon! Dwi'n cofio'i chanu hi yn yr ysgol, cyn imi wybod bod na fersiwn Saesneg!

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Rhian Jones

Sent: Thursday, December 13, 2007 10:38 AM

Subject: Re: emyn Jerusalem

 

Yn rhan yr Anthemau yn hen Lyfr Emynau a Thonau'r Methodistiaid (Rhif 41) -

A sangodd traed ein Harglwydd gynt

Anial fynyddoedd Cymru gu?

A welwyd sanctaidd Oen ein Duw

Hyd ddolydd gwyrddlas Cymru Fu?

A fu ei wyneb dwyfol Ef

Gynt yn goleuo'r dywyll fro?

A fu Jeriwsalem dinas Duw

Yng ngwlad y mwg a'r pyllau glo?

 

Rhowch im fy mwa euraid llosg!

Saethau fy nymuniadau glân!

Fy mhicell rhowch! O! gwmwl, hollt!

A dygwch im fy ngherbyd tân.

Ni chwsg fy nghleddyf yn fy llaw,

Ni ddianc f'enaid rhag y gad

Nes codi mur Jeriwsalem

Ar feysydd gwyrdlas Cymru fad.

 

(Yr Athro D. Miall Edwards)


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.17.1/1182 - Release Date: 12/12/2007 11:29