Onid yw’r geiriau wedi eu seilio ar y syniad bod Iesu Grist wedi mynd i Loegr neu rwbath i Glastonbury? _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen Sent: 13 December 2007 11:17 To: [log in to unmask] Subject: Re: emyn Jerusalem Rhyfedd fel dan ni wedi derbyn fersiwn Cymraeg Finlandia i'n calonnau, ond ddim hon... Gwrth-seisnigrwydd tybed? ----- Original Message ----- From: Catrin <mailto:[log in to unmask]> Alun To: [log in to unmask] Sent: Thursday, December 13, 2007 11:07 AM Subject: Re: emyn Jerusalem A finna! O'n i'n methu deall y gwrthwynebiad i 'Jerusalem' achos doeddwn i ddim yn gwybod y geiriau Saesneg!! ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, December 13, 2007 10:59 AM Subject: Re: emyn Jerusalem Ew, da di hon! Dwi'n cofio'i chanu hi yn yr ysgol, cyn imi wybod bod na fersiwn Saesneg! ----- Original Message ----- From: Rhian Jones <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, December 13, 2007 10:38 AM Subject: Re: emyn Jerusalem Yn rhan yr Anthemau yn hen Lyfr Emynau a Thonau'r Methodistiaid (Rhif 41) - A sangodd traed ein Harglwydd gynt Anial fynyddoedd Cymru gu? A welwyd sanctaidd Oen ein Duw Hyd ddolydd gwyrddlas Cymru Fu? A fu ei wyneb dwyfol Ef Gynt yn goleuo'r dywyll fro? A fu Jeriwsalem dinas Duw Yng ngwlad y mwg a'r pyllau glo? Rhowch im fy mwa euraid llosg! Saethau fy nymuniadau glân! Fy mhicell rhowch! O! gwmwl, hollt! A dygwch im fy ngherbyd tân. Ni chwsg fy nghleddyf yn fy llaw, Ni ddianc f'enaid rhag y gad Nes codi mur Jeriwsalem Ar feysydd gwyrdlas Cymru fad. (Yr Athro D. Miall Edwards) _____ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.17.1/1182 - Release Date: 12/12/2007 11:29