Chi sy a chopi o'r Cofnod 'Cyrhaeddiad' sy'n iawn a fi sy'n anghywir,
fel ydach chi bob amser :-) ( i ddyfynnu FE Smith). Ie, mewn sachliain a
lludw rwy'n cyfaddef mai 'Cofnod Cyrhaeddiad' oedd hi yn y dyddiau cynnar hynny
- yr unig esgus sy gen i ydi mod i'n hen ac yn mynd yn anghofus ( Mae Gari'n hen
hefyd, ond nid mor anghofus a minne!
Serch hynny, mae defnydd presennol (ac ers peth amser) y termau yn
union fel y diffiniais hi, sef cyflawniad = achievement a cyrhaeddiad =
attainment
Alwyn