Quoting Alwyn Evans <[log in to unmask]>: > Tyrd yn dy flaen Gari - rwyt ti'n cofio'r Ffeil Goch! Honno oedd mewn bri am > > rai blynyddoedd a'r Swyddfa Gymreig, a'r Llywodraeth yn ei gwthio ar bawb > ddechrau'r 80au - y diwedd fu i domennydd ohonynt lenwi stordai awdurdodau > addysg am flynyddoedd! Y 'Cofnod Cyflawniad' oedd honno ym mhob AALl - er > bod > ambell enw llai parchus arni - y Menu oedd un ohonynt. > > Y gwahaniaeth rhwng 'cyflawniad' a 'chyrhaeddiad' yw (mewn theori beth > bynnag) fod 'cyrhaeddiad' yn son am berfformiad sy wedi ei fesur yn unol â > safonau cyffredinol - y norm perfformiad ar gyfer grw^p, neu sir, neu ar > draws > bwrdd arholi. Mae cyflwaniad yn mesur y cynnydd mae'r unigolyn wedi ei > (g)wneud > o'i gymharu â'i m/fan cychwyn, neu ph/berfformiad blaenorol. > > Alwyn Diolch yn fawr am y diffiniad defnyddiol hwn, Alwyn. Mae'n gymorth mawr. Fel y dywedais i yn fy neges ddiwethaf, cafodd pob un o'm plant gopi o'r ffeil goch (ydy, mae'n debyg iawn i fwydlen!) rhwng 1996 a 2002 a'r teitl sydd ar y clawr yw National Record of Achievement / Cofnod Cenedlaethol o Gyrhaeddiad. Ond yn ôl dy ddiffiniad di uchod, buasai Cyflawniad yn well yn y cyd-destun oherwydd mae'n gofnod o holl lwyddiannau personol y plentyn yn yr ysgol. Mae'n cynnwys canlyniadau arholiadau ond pethau eraill hefyd. Tybed pam y newidiwyd yr enw rhwng y 1980au a'r 1990au? > > > > -- This mail sent through http://webmail.bangor.ac.uk -- Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of the Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office. www.bangor.ac.uk