Print

Print


Cofnod Cyrhaeddiad ges i ar ddiwedd fy ngyrfa ysgol!
 
Meleri
 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alwyn Evans
Anfonwyd/Sent: 06 December 2007 23:08
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: higher education achievement report

Tyrd yn dy flaen Gari - rwyt ti'n cofio'r Ffeil Goch! Honno oedd mewn bri am rai blynyddoedd a'r Swyddfa Gymreig, a'r Llywodraeth yn ei gwthio ar bawb ddechrau'r 80au - y diwedd fu i domennydd ohonynt lenwi stordai awdurdodau addysg am flynyddoedd!  Y 'Cofnod Cyflawniad' oedd honno  ym mhob AALl - er bod ambell enw llai parchus arni - y Menu oedd un ohonynt.
 
Y gwahaniaeth rhwng 'cyflawniad'  a 'chyrhaeddiad' yw (mewn theori beth bynnag) fod 'cyrhaeddiad' yn son am berfformiad sy wedi ei fesur yn unol â safonau cyffredinol - y norm perfformiad ar gyfer grw^p, neu sir, neu ar draws bwrdd arholi. Mae cyflwaniad yn mesur y cynnydd mae'r unigolyn wedi ei (g)wneud  o'i gymharu â'i m/fan cychwyn, neu ph/berfformiad blaenorol.
 
Alwyn

-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.