Annwyl Meg,
Ces i hyd i hwn ar “Morfablog” ar y we. Edrychwch ar y frawddeg
olaf.
Mordicai 19 Awst 2004
Mae hi wedi bod yn wythnos fishi ym myd blogiau Cymraeg. Dw i
wedi colli trac o faint o flogiau newydd wedi ymddangos (mae o leia dau wedi
dechrau heddi, sef Ymgyrchu a’r Bachgen o Bontllanfraith). Ond mae rhywbeth
arall wedi dechrau symud yn y tywyllwch. Rhywbeth rhyfedd, rhywbeth amwys,
rhywbeth sy’n drewi fel pymtheg llath o fadarch wedi pydru.
Foneddigion a boneddigesau, mae Mordicai yn y tŷ.
Byddwch ag ofn. Byddwch ag ofn mawr.
Hwyl,
Dewi
From: Discussion of Welsh language technical
terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of MEG ELIS
Sent: 05 December 2007 20:02
To: [log in to unmask]
Subject: Be afraid: Be very afraid
Help! Mae rhywun wedi defnyddio'r ymadrodd hwn, dwi'n
methu'n lan a meddwl am ddywediad cyfatebol bachog yn Gymraeg, ac mae'n rhaid i
mi gael o heno!
Unrhyw un allan fan'na efo ymenydd mwy effro na mi?
Meg