Print

Print


Arfer swyddogol Cyngor Gwynedd pan oeddwn i'n gweithio yno flynyddoedd yn ol, yn y cofnodion a'r rhaglenni pwyllgorau i gyd, oedd rhoi'r rhif yn unig yn y fersiwn Cymraeg a'r trefnolyn yn Saesneg - 11 Tachwedd / 11th November. Hyd y gwn i roedd yr arferiad hwnnw'n bodoli ers sefydlu Cyngor Gwynedd ym 1974. 
Petawn i'n gallu dod o hyd i gofnodion ar eu gwefan mi faswn yn gallu cadarnhau ai dyna'r arfer o hyd.
Geraint
  ----- Original Message ----- 
  From: Mary Jones 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Wednesday, December 05, 2007 10:11 AM
  Subject: Re: 11fed/11eg


  Fe fu'r Uned Gyfieithu yn y Swyddfa Gymreig yn gyfrifol i ryw raddau am ddileu'r terfyniadau yn y Gymraeg mewn stwff swyddogol. Roedd argraffwyr/dylunwyr byth a hefyd yn mynnu gosod y terfyniadau anghywir mewn darnau Cymraeg - ac yn enwedig ar lechi etc i ddynodi agor y fan a'r fan gan ryw bwysigyn - nes inni fynnu nad oedden nhw i gael eu defnyddio o gwbl yn y Gymraeg. Ac ar ol llawer o styfnigrwydd fe benderfynwyd gwneud yr un fath yn y Saesneg. Hir y parhaed!

  Mary

   


------------------------------------------------------------------------------

  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenllian Mair Williams
  Sent: 04 December 2007 13:43
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: 11fed/11eg

   

  Diolch i bawb am yr ymateb.

  Roeddwn i'n ymwybodol ei fod yn mynd i ymddangos fel cwestiwn gwirion i rai!

   

  Y broblem ydi y byddwn i'n rhoi unfed ar ddeg yn reddfol wrth ysgrifennu, ond yn dweud unarddegfed ar lafar (ond byth un deg unfed!), felly roeddwn i wedi drysu braidd.

   

  Faint ohonoch chi sy'n hepgor y fed/eg wrth nodi dyddiadau erbyn hyn? Mae o'n fwy cyffredin i nodi'r rhif yn unig yn y Saesneg yn tydi, felly yda chi'n dilyn yr un arfer wrth gyfieithu?

   

  Gwenllian

   


  Rhian Jones <[log in to unmask]> wrote:

    Mae J. Elwyn Hughes, yn Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg, yn dweud bod dwy ffordd o gyfrif yn Gymraeg, y ffordd draddodiadol a'r ffordd 'newydd'. Mae o'n dweud bod y system draddodiadol (gyda threfnolion) yn gallu bod yn eithriadol o gymhleth fel yr â yn ei blaen, ond nad ydi ffurfio trefnolion gyda'r system 'newydd' wedi bod yn hawdd. Yn fyr iawn, mae o'n dweud 'mentraf gynnig awgrymiadau yn y tablau a ganlyn ynglyn â sut y gellir goresgyn yr anhawster.'  Awgrymiadau ydyn nhw. Ar gyfer 'thirty-first' mae'r tabl yn rhoi 'unfed ar ddeg ar hugain' (traddodiadol) a 'tri deg unfed' (newydd). Yn yr un modd, ar gyfer 'eleventh' mae'r tabl yn rhoi 'unfed ar ddeg' (traddodiadol) ac 'un deg unfed' (newydd).  (tud. 11.7) Mae'r tabl yn edrych yn debyg iawn i'r hyn sydd yn 'Bilingualism and Number in Wales', Gareth Roberts.

    Rhian (traddodiadol)



  -- 
  This message has been scanned for viruses and 
  dangerous content by SpamAlizer, and is 
  believed to be clean.