Gan fod amod fel rheol yn cyfeirio wneud rhywbeth yn y dyfodol, byddwn i'n tybio bod 'cyhyd â bod' yn ddigonol mewn cyd-destun o'r fath. Bydd 'bod' weithiau fel petai'n adleisio amser y brif ferf mewn brawddeg ...
 
Pwysleisio'r dyfodol yn ddiangen - i mi - fyddai dweud 'cyhyd ag y bydd', ond go brin ei fod e'n anghywir chwaith.
 
Mae'r un peth yn wir am 'ar yr amod ein bod yn ...'/'ar yr amod y byddwn ni'n ...' - cyhyd â bod Geraint yn cytuno, wrth gwrs!
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw Garan
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, December 18, 2007 12:46 PM
Subject: Cyhyd â bod / cyhyd ag y bydd

Mewn cywair ffurfiol (adroddiad corfforaethol), y Saesneg yw "We can live with this level of funding as long as ... we achieve our manpower levels ... and we are not asked to accommodate any expansive plans..." .  A fyddai  "Cyhyd  â'n bod yn cyrraedd ein lefelau staffio...", neu ai "Cyhyd ag y byddwn..." sy'n gywir?

Diolch

Hg


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.17.4/1188 - Release Date: 17/12/2007 14:13