Diolch i bawb hyd yn hyn. Yr unig esgusion sydd gen i, Mafi, ydy mod i'n gorfod dysgu Cymraeg a Saesneg yma fel prif swydd yn ystod yr wythnos a chan hynny dim yn wybodol o BOB symudiad yng Nghymru, er bod rhn. yn ceisio dal i fyny o dro i dro... Gan hynny, ail swyddogaeth ydy cyfieithu, ac mae'n llawer haws gofyn i'r arbenigwyr a'r arbenigwragedd na chwilio am y nodwydd yn y das wair ys dywed ein hannwyl gymdogion. Dechrau allan yn y maes yr ydwyf hefyd, ac yn cyfieithu ond tua 32 000 gair y flwyddyn ar gyfartaledd.