Dylwn hefyd wedi son am 'Werecat', meddalwedd sy'n gallu tynnu'r testun allan o focsys testun yn Word fel y gallwch eu cyfieithu ac wedyn yn gallu rhoi'r testun yn ol yn y bocsys. Mae'n debyg ei fod yn gweithio'n dda gyda ffeiliau Publisher ac ati - mae Werecat ar gael am ddim ar http://www.volny.cz/ddaduc/werecat.html
 
M

 
On 17/12/2007, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote:
Wordfast - mae'n rhad, ac yn hawdd i'w ddefnyddio http://www.wordfast.net/. Mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio Wordfast yn barod, felly gellwch gysylltu a Ffion neu un ag o'r cyfieithwyr a gofyn am eu barn hwy. Gellir hefyd lawrlwytho copi ac arbrofi gydag ef.  Mae nifer o gyfieithwyr Cymraeg yn ei ddefnyddio.
 
Fel yn achos pob meddalwedd cof cyfieithu, nid yw'n ddiffael ond mae'n gweithio'n dda iawn (o'm profiad i).
 
muiris
 

 
On 17/12/2007, sioned Edge <[log in to unmask] > wrote:
Prynhawn da

Tybed fedrwch chi helpu os gwelwch yn dda.  O'ch profiad chi -

Pa offer cof cyfieithu fyddai fwyaf addas ar gyfer awdurdod lleol gyda dim
ond 2 gyfieithydd?

Faint fyddai hwnnw'n debygol o gostio?

Dim ond rhyw syniad bras sydd ei angen arna' i - dw i wedi cael cipolwg ar
wefan Trados ond mae yna gymaint o wahanol becynnau i'w cael a dim rhestr
prisiau hyd y gwela i!!!!

Diolch

Sioned.