Wordfast - mae'n rhad, ac yn hawdd i'w ddefnyddio http://www.wordfast.net/. Mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio Wordfast yn barod, felly gellwch gysylltu a Ffion neu un ag o'r cyfieithwyr a gofyn am eu barn hwy. Gellir hefyd lawrlwytho copi ac arbrofi gydag ef. Mae nifer o gyfieithwyr Cymraeg yn ei ddefnyddio.Fel yn achos pob meddalwedd cof cyfieithu, nid yw'n ddiffael ond mae'n gweithio'n dda iawn (o'm profiad i).muiris
On 17/12/2007, sioned Edge <[log in to unmask] > wrote:Prynhawn da
Tybed fedrwch chi helpu os gwelwch yn dda. O'ch profiad chi -
Pa offer cof cyfieithu fyddai fwyaf addas ar gyfer awdurdod lleol gyda dim
ond 2 gyfieithydd?
Faint fyddai hwnnw'n debygol o gostio?
Dim ond rhyw syniad bras sydd ei angen arna' i - dw i wedi cael cipolwg ar
wefan Trados ond mae yna gymaint o wahanol becynnau i'w cael a dim rhestr
prisiau hyd y gwela i!!!!
Diolch
Sioned.