> > Gwell gen i 'ddolen' na linc, ac mae llawer hefyd yn defnyddio > 'cysylltiad(au)' Dwi newydd weithio ar wefan i'r Cynulliad sydd yn defnyddio yr afiach 'Linciau' (dwi ddim yn siwr pwy wnaeth y cyfieithiad). Mi allwn ni ei newid yn hawdd, ond dwi wedi cael stwr o'r blaen am 'gywiro' cynnwys Cymraeg sy'n cael ei roi gan glientiaid - fel arfer pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg a felly yn trin ei cyfieithiad 'swyddogol' fel rhyw destun cysegredig.