Print

Print

Dwi'n hoffi "chwilfriwio".

Ond byddai "cofiwch ailgylchu'ch coeden Nadolig" yn gwneud y tro hefyd.

----- Original Message ----- 
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 20, 2007 12:38 PM
Subject: Re: mulch

Os rhowch chi 'mulch Christmas trees' yn Google, fe gewch chi hyn:

Recycle Christmas trees into mulch and fertilizer. How to turn trees into
mulch with a mulcher or woodchipper. christmas tree recycling.
www.philforhumanity.com/Recycle_Christmas_Trees.html

Malu'n fân yw'r ystyr 'newydd', felly. Beth am:

1. chwilfriwio = to mulch

2. chwilfriwiwr = mulcher (mae 'chwilfriwiwr/chwilfriwydd' i'w cael yn GPC,
td 854, am 'shatterer, smasher')

3. 'mulch' fel enw? Mae sawl posibilrwydd. Gellid troi 'chwilfriw' yn enw
lluosog ('chwilfriwyn' yn enw unigol gwrywaidd?) - 'mae gormod o hen
chwilfriw ar hyd y lle 'ma!', neu ddefnyddio 'defnydd chwilfriw' neu
'chwilfriwiadau' (ond rhydd GPC 'Y weithred o chwilfriwio' yn ddiffiniad o
'chwilfriwiad'). Yr awgrym cynta sy'n apelio ata i.

(Yn Termau Amaethyddiaeth a Milfeddygaeth, td 216, 'deunydd lleithgadw' yw
'mulch' a 'lleithgadw' yw 'to mulch' yn eu hystyr arferol, ond dyw
'lleithgadw' ddim wedi'i gynnwys yn Cydymaith Byd Amaeth Huw Jones ...)

Berwyn

----- Original Message ----- 
From: "Puw, John" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 20, 2007 11:50 AM
Subject: Re: mulch

Ai rhoi 'mulch' o amgylch bonyn y goedeb nadolig maen nhw'n feddwl -
oherwydd dyna ydi ystyr y gair yn fy mhrofiad i.  Os mai troi'r goeden yn
'mulch' ddechrau mis Ionawr yw'r bwriad, yna rhywbeh fel shred yw'r term
Saesneg cywir. Mae'n beryg y bydd y cyfieithiad yn dibynnu'n fawr ar y
bwriad.

John Puw
Cyfieithydd / Translator
Uned Gyfieithu / Translation Unit
Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department
Ffôn / Tel: 01492 805135
Est / Ext: 05135
E-bost / E-mail: [log in to unmask]
Gwefan / Website: http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garry Nicholas
Sent: 20 November 2007 11:15
To: [log in to unmask]
Subject: mulch

All rhywun gynnig y gair iawn am 'mulch' yn y frawddeg-remember to mulch
your Christmas tree
garry
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae
Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y
rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os
ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd
wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu
cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r
farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich
cydweithrediad.

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the
sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or
disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this
document may not be official policy.  Thank you for your co-operation.

North Wales Police

-- 
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.1/1140 - Release Date: 19/11/2007
19:05