Cefais drafodaeth byr ond difyr gyda chyfieithydd
arall am 'e-bost' ac 'e-bostio' yn ystod egwyl yn seminar Bwrdd yr Iaith ar
dermau yn ddiweddar. Roedd yn gas gan y cyfieithydd hwnnw'r ffurf 'e-bost' a
mynnai mai'r ffurf y dylid ei defnyddio oedd 'e-bostiad(au)'. Fe atgoffai hynny
fi o'r diweddar Urien Wiliam, a fynnai ddweud 'disgen' am 'disg'
...
F'ymateb i oedd dweud bod 'e-bost' yn gamffurfiad
beth bynnag am mai'r ffurf lawn arno fyddai 'electronig bost'. Y ffurf
'gywir' am 'electronic mail' yw 'post electronig' - a 'post-e', yw'r
ffurf fer ar hwnnw! Ond nid felly y mae iaith a'i siaradwyr yn gweithio a byddan
nhw'n dilyn eu trywydd eu hunain gan ddilyn rheolau neu greu eithriadau fel y
gwelan nhw'n dda. Felly, os yw siaradwyr yr iaith yn arddel ffurfiau fel
'e-bost', 'e-byst' ac e-bostio', dylen ni bwyllo cyn mynd yn groes i'r
llif.
O ran yr 'h' o flaen gwahanol ffurfiau
'e-bost' ac 'e-bostio', mae modd osgoi'r broblem - os oes angen - drwy
ddefnyddio un o'r awgrymiadau sydd wedi'u gwneud eisoes (cynnwys 'neges' ac
ati). Mae sawl ffordd o gael Wil i'w wely, yn union fel y mae modd bod yn
ddyfeisgar wrth gyfleu 'yes/no' yn gryno. Ac o sôn am hynny, tybed sawl un a
sylwodd adeg y refferenwm ar ddatganoli fod yr ymgyrchwyr o blaid yn gofyn
i'r etholwyr ddweud 'Ie' ond mai 'Ydw' oedd ar y papur pleidleisio?
Berwyn